Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Paratoi i symud neu ymddeol dramor

Mae symud dramor yn gam mawr. Ar wahân i ystyriaethau'n ymwneud â theulu a ffrindiau, dylech fod yn ymwybodol o faterion sy'n ymwneud â phensiynau, treth a chostau iechyd. I helpu, rydym wedi paratoi rhestr atgoffa i sicrhau eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion pwysicaf.

I ble alla' i symud?

Fel un o ddinasyddion y DU, mae gennych chi hawl i fyw yn unrhyw un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop (AEE). Os ydych chi'n bwriadu symud i unrhyw wlad arall, dylech ymweld i ddechrau â'r wefan Llysgenhadaeth Prydain y wlad honno am rhagor o wybodaeth.

Y gwledydd hynny sy'n aelodau llawn o'r Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n ffurfio AEE: Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, Hwngari, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon, Romania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden a'r Deyrnas Unedig, ynghyd â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Treth, budd-daliadau a phensiynau

Cyn i chi symud, fe allwch chi wneud y canlynol:

  • cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth - drwy gael ffurflen BR19 o'ch Canolfan Byd Gwaith leol neu o Gyllid a Thollau EM os ydych chi eisoes yn byw dramor - mae faint y cewch chi ei hawlio yn amrywio yn ôl y wlad y byddwch yn byw ynddi
  • gofyn i Gyllid a Thollau EM faint o dreth y mae'n rhaid ei dalu ar unrhyw incwm sydd dros lwfans personol y DU - gall y dreth y mae'n rhaid ei dalu yn y DU o dramor amrywio yn ôl lle y byddwch chi'n penderfynu byw
  • cael cyngor treth annibynnol am unrhyw fanteision bancio dramor os ydych chi'n ymddeol dramor, gan y gallai hynny leihau faint o dreth y mae'n rhaid i chi ei dalu, yn dibynnu ar ble y byddwch chi'n byw
  • rhoi gwybod i'ch swyddfa nawdd cymdeithasol, Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM (Gwasanaethau Rhyngwladol) a'r Adran Gwaith a Phensiynau pan fyddwch chi'n symud a rhoi eich manylion cyswllt dramor - dylech hefyd roi gwybod iddynt os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad eto neu'n dychwelyd i'r DU i fyw

Iechyd

Dyma rai o'r pethau y gallech ystyried eu gwneud i warchod eich gofal iechyd:

  • cael gwybod am hawliau lles dramor; does dim modd cael rhai o fudd-daliadau'r DU y tu allan i'r DU, tra bo eraill ar gael o fewn yr UE yn unig neu mewn gwledydd sydd â threfniant â'r DU
  • cael gwybod am gostau gofal iechyd yn y wlad y byddwch yn symud iddi
  • fe'ch cynghorir yn gryf i gael yswiriant iechyd os yw hynny'n angenrheidiol i ofalu am gostau triniaeth feddygol a deintyddol breifat, neu i ddychwelyd i'r DU am driniaeth feddygol
  • rhoi gwybod i'ch meddyg, eich meddyg teulu, eich deintydd a darparwyr gofal iechyd perthnasol eraill

Eich cartref a'ch teulu

Pethau i'w cofio:

  • os byddwch chi'n penderfynu cadw'ch cartref yn y DU ac y bydd hwnnw'n wag neu'n cael ei rentu, mae angen i chi roi gwybod i'ch benthyciwr morgais ac i'ch darparwyr yswiriant
  • ystyriwch sut y gallwch sicrhau bod eich cartref yn ddiogel tra byddwch chi i ffwrdd - gweler y ddolen isod am ragor o gyngor
  • cysylltwch â'ch cyngor lleol - bydd angen i'w hadran Treth Gyngor a'r uned gofrestru etholiadol gael gwybod pryd y byddwch chi'n gadael a bydd angen iddynt wybod eich cyfeiriad newydd
  • rhowch wybod i'ch cwmnïau gwasanaethau eich bod yn symud er mwyn cael eich biliau olaf a rhowch eich cyfeiriad newydd er mwyn iddynt allu anfon unrhyw filiau neu ad-daliadau dyledus i chi
  • rhowch wybod i'ch banc, cymdeithas adeiladu neu unrhyw sefydliad ariannol y mae gennych bolisi neu gytundeb â hwy eich bod yn symud dramor
  • dylech drefnu i'ch post gael ei anfon atoch drwy ofyn am ffurflen ail-gyfeirio yn un o ganghennau Swyddfa'r Post - gadewch ddigon o amser i drefnu hyn, gan y gall gymryd rhai wythnosau
  • os oes gennych chi blant, rhowch wybod i'r ysgol a'r awdurdod addysg lleol y dyddiad pan fyddant yn gadael yr ysgol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU