Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cadw'n ddiogel

Wrth gynllunio taith neu arhosiad hir mewn gwlad dramor, mae'n bwysig eich bod yn meddwl am yr hyn y byddech yn ei wneud mewn argyfwng. Dyma ychydig o gyngor sylfaenol i chi allu ymlacio a mwynhau eich cyfnod dramor.

Cyngor diogelwch:

  • edrychwch ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu ffoniwch 0870 606 0290 am wybodaeth am y wlad y byddwch yn teithio iddi
  • prynwch yswiriant teithio a gofalwch bod hwnnw'n addas
  • prynwch lawlyfr da a dysgwch lawer am y lleoliad
  • dysgwch am y cyfreithiau a'r arferion lleol
  • sicrhewch fod gennych chi basport dilys a'r fisas angenrheidiol
  • gofalwch eich bod yn gwybod pa frechiadau y mae angen i chi eu cael chwe wythnos o leiaf cyn i chi fynd
  • holwch a oes angen i chi gymryd rhagofalon iechyd ychwanegol ai peidio
  • sicrhewch fod eich trefnydd gwyliau yn aelod o Gymdeithas Trefnwyr Gwyliau Prydain (ABTA), ac os byddwch chi'n hedfan mewn awyren, sicrhewch fod eich gwyliau wedi'i ddiogelu'n ariannol gan Drwyddedwyr Trefnwyr Teithio Awyrennau (ATOL)
  • gwnewch gopïau o'ch pasport, o'ch polisi yswiriant (gan gynnwys rhif argyfwng 24 awr eich yswiriwr a'ch cynllun amddiffyn cardiau), ac o fanylion eich tocynnau - gan adael copïau gyda theulu a ffrindiau
  • ewch â digon o arian gyda chi ar gyfer eich taith ynghyd ag arian wrth gefn, e.e. sieciau teithio, punnoedd sterling neu ddoleri'r UDA
  • gadewch gopi o gynllun eich taith a'ch manylion cyswllt gyda theulu a ffrindiau - cyfeiriad e-bost, er enghraifft

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU