Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y drefn bleidleisio ar gyfer Prydeinwyr sy'n byw dramor neu'n dychwelyd i'r DU

Byddwch chi'n cadw'ch hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol ac yn etholiadau'r Undeb Ewropeaidd am hyd at bymtheng mlynedd ar ôl symud dramor, ond ni fydd modd i chi bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol y DU. Cofiwch gofrestru os byddwch chi'n dychwelyd i'r DU i fyw, rhag colli'r cyfle i bleidleisio.

Cofrestru fel pleidleisiwr tramor

Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi:

  • fod wedi'ch cofrestru eisoes i bleidleisio yn y DU

cysylltu â'r swyddfa gofrestru etholiadol yn y cyngor lleol lle'ch cofrestrwyd i bleidleisio ddiwethaf, a bydd y ffurflenni'n cael eu hanfon atoch - mae hyn hefyd yn berthnasol os byddwch chi'n digwydd bod dramor ar y diwrnod pleidleisio'n unig. Dylech roi gwybod i'r swyddog cofrestru ar ba ddyddiad y byddwch yn dychwelyd i'r DU

Heb eich cofrestru yn y DU

Os nad ydych chi wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y DU, chewch chi ddim pleidleisio o dramor, oni bai i chi adael y DU cyn i chi fod yn 18 a bod eich rhieni/gwarcheidwaid wedi'u cofrestru i bleidleisio yn y DU. Cyn belled â'ch bod wedi gadael y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf, fe allwch chi gofrestru gyda'r cyngor lleol ymhle'r oedd eich rhieni/gwarcheidwaid wedi'u cofrestru ddiwethaf.

Gall pob pleidleisiwr tramor bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Pleidlais ddirprwy yw pan fyddwch chi'n enwebu rhywun arall i bleidleisio'n bersonol ar eich rhan. Gellir trefnu hyn pan fyddwch chi'n cofrestru. Anfonir pleidleisiau post rhyw wythnos cyn diwrnod yr etholiad, felly os bydd hi'n anodd i chi dderbyn a dychwelyd eich pleidlais o fewn wythnos, trefnwch i gael pleidlais ddirprwy.

Aelodau sy'n gwasanaethu

Os ydych chi'n gwasanaethu dramor gyda'r lluoedd arfog neu Lywodraeth Ei Mawrhydi, dylech:

  • gwblhau datganiad gwasanaeth blynyddol gan eich uned wasanaeth neu swyddogion cofrestru etholiadol
  • cofrestru gan ddefnyddio'ch cyfeiriad diwethaf yn y DU, neu'r cyfeiriad ble byddech chi'n byw petaech chi'n dal i fod yn y DU

Dychwelyd i'r DU o dramor, gan gynnwys aelodau sy'n gwasanaethu

Peidiwch â cholli'ch cyfle i bleidleisio. Cofiwch gofrestru pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r DU.

Os byddwch chi'n dychwelyd i'r DU ar ôl cyfnod dramor, fe allwch chi gofrestru i bleidleisio yn swyddfa cofrestru etholiadol eich cyngor lleol os ydych chi'n 16 oed neu'n hwn. Ond ni fydd modd i chi bleidleisio tan i chi fod yn 18 oed.

Os ydych chi'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac yn dychwelyd i'r DU, fe allwch chi gofrestru i bleidleisio mewn un o ddwy ffordd:

  • drwy lenwi'r ffurflen a anfonir i bob cartref gan eich cyngor lleol
  • drwy eich uned wasanaeth fel pleidleisiwr gwasanaeth

Fel aelod sy'n gwasanaethu bydd hefyd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad etholiadol yn flynyddol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU