Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymwybyddiaeth ddiwylliannol

Drwy ddeall cyfreithiau ac arferion y wlad, bydd modd i chi addasu'n well mewn cartref newydd dramor. Gall bywyd fod yn anodd i ddechrau, felly drwy baratoi ymlaen llaw bydd modd i chi addasu'n gynt. Gall gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol a chyfreithiol hefyd eich helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd neu sefyllfaoedd a allai achosi chwithdod i chi.

Dyma gyngor am sut i roi dechrau arni:

  • prynwch lawlyfr da a dysgwch am y cyfreithiau, yr arferion a'r diwylliant lleol
  • yn ddelfrydol, dysgwch yr iaith leol, a dylai fod gennych lyfr ymadroddion fan leiaf
  • parchwch arferion lleol a dulliau gwisgo, gan ystyried beth fyddwch chi'n ei wisgo a pha mor weddus yw hynny
  • byddwch yn synhwyrol cyn mynegi'ch barn am wahaniaethau diwylliannol, gan ymddwyn a gwisgo'n addas, yn enwedig wrth ymweld â mannau crefyddol, marchnadoedd a chymunedau gwledig
  • dylech fod yn arbennig o ofalus nad ydych yn pechu yn erbyn crefydd Islam yn y ffordd y byddwch chi'n gwisgo ac yn ymddwyn, ac o ran cysylltiadau rhywiol, alcohol a chyffuriau - mewn rhai gwledydd, er enghraifft, mae'n anghyfreithlon yfed, a gall mewnforio alcohol i'r wlad arwain at gosbau llym iawn
  • gofynnwch am ganiatâd unigolyn bob amser cyn tynnu llun ohonynt a pharchwch eu dymuniadau - mewn rhai diwylliannau, gall tynnu llun o fenyw ddigio pobl yn arw
  • peidiwch â bargeinio yn rhy ymosodol; yn y rhan fwyaf o'r gwledydd lle bydd bargeinio'n digwydd, gwneir hynny gyda hiwmor ac ni fydd yn para'n rhy hir - mae'n bwysig cofio mai ychydig geiniogau efallai fydd y gwahaniaeth i chi, ond gall hynny fod yn incwm sylweddol i'r gwerthwr
  • does dim niwed mewn bod yn rhy ofalus - gall ymddygiad a fyddai'n hollol ddiniwed mewn gwlad arall arwain at helbul difrifol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU