Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Plant ac ysgolion dramor

Gall symud plant i ysgolion y tu allan i'r DU olygu llawer o waith paratoi gan rieni a chyfnod o addasu i'r plentyn. Gall fod yn anodd i ddechrau, ond gan ddibynnu ar eu hoedran, mae plant ar y cyfan yn gallu gwneud ffrindiau ac addasu i'w hysgol newydd yn weddol gyflym.

Dod o hyd i le mewn ysgol

nid yw pob gwlad yn rhoi addysg am ddim gan y wladwriaeth

Fe allwch chi gysylltu gydag awdurdod addysg neu wasanaeth gwybodaeth ysgolion yr ardal y byddwch yn symud iddi er mwyn cael cymorth i ddeall y broses o ddewis a gwneud cais, ac fe allan nhw hefyd roi gwybod i chi pa ysgolion sydd gan y wladwriaeth yn yr ardal.

Mae'n debyg y dewch chi o hyd i gysylltiadau ar gyfer gwybodaeth o'r fath ar wefan llywodraeth y wlad dan sylw, neu drwy chwilio ar y rhyngrwyd am ysgolion preifat neu ysgolion y wladwriaeth yn eich dewis ardal..

Nid yw pob gwlad yn rhoi addysg am ddim gan y wladwriaeth. Dylech ganfod sut fath o addysg y bydd gan eich plentyn hawl iddo, a oes angen i chi fod yn ddinesydd yn y wlad dan sylw i fod yn gymwys a faint rydych chi'n debygol o orfod ei dalu. Mae gan lawer o wledydd ysgolion Saesneg rhyngwladol.

Gall patrwm gwyliau ysgol ac oriau dyddiol amrywio rhwng gwledydd.

Y dogfennau angenrheidiol

Ar gyfer rhai ysgolion, bydd angen i chi ddarparu copïau o dystysgrifau brechiadau eich plentyn wrth wneud cais.

Efallai hefyd y bydd angen pasport neu dystysgrif geni arnoch gyda chyfieithiad ardystiedig yn iaith y wlad dan sylw. Dylai'r ysgol allu rhoi gwybod i chi sut i gael cyfieithiad ardystiedig.

Addasu i ysgol newydd

Y plant ieuengaf sy'n ei chael hi hawsaf addasu i ysgol mewn gwlad newydd. Bydd ymdopi ag iaith ac arferion newydd yn fwy anodd i blant hwn. Mae'n bosibl i bobl ifanc yn eu harddegau addasu, ond nid mor gyflym bob tro â phlant iau. Dod i arfer â system addysg newydd a gadael ffrindiau yn y DU yw'r ddau beth anhawsaf i blant hwn.

Mae gan rai gwledydd ac ysgolion raglenni cyfnewid rhyngwladol ar gyfer pobl ifanc a all fod yn ffordd dda i'ch plentyn ddod i arfer â'r amgylchfyd newydd a dod i adnabod gwlad arall cyn i chi symud. Fe allwch chi gysylltu â'r awdurdod addysg neu â gwasanaeth gwybodaeth ysgolion yn yr ardal y byddwch chi'n symud iddi i ganfod mwy.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU