Os byddwch chi'n symud dramor i weithio, dylech ganfod pa hawliau sydd gennych o dan gyfraith cyflogaeth y wlad dan sylw. Rhowch wybod i'ch swyddfa dreth os byddwch chi'n symud dramor, ac os ydych chi'n hawlio budd-daliadau, siaradwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith, â'ch Canolfan Waith neu â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol.
Hyd yn oed os byddwch chi'n mynd dramor fel gweithiwr i gwmni sydd wedi'i leoli yn y DU, efallai na fydd gennych chi'r un hawliau cyflogaeth â gweithwyr yn y DU. Gall gofynion o ran oriau gweithio, gwyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus amrywio.
Fel dinesydd un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu yn yr Undeb Ewropeaidd, mae gennych chi hawl i weithio mewn unrhyw wlad arall sy'n aelod-wladwriaeth, heb fod angen trwydded waith. Bydd gennych chi hefyd yr un hawliau â dinasyddion y wlad dan sylw o ran amodau gwaith, cyflog a nawdd cymdeithasol.
Nid yw pob cymhwyster yn cael ei gydnabod drwy'r UE ac AEE, ac mae gan rai proffesiynau gyfyngiadau cyflogaeth. Bydd modd i chi weld statws eich cymwysterau ar daflenni gwybodaeth sy'n cael eu darparu gan aelod-wladwriaethau'r UE, sy'n eich galluogi i weld a yw'ch cymhwyster o'r DU yn dderbyniol. Gall sgiliau iaith a pha mor rhugl ydych chi hefyd fod yn fater o bwys wrth chwilio am waith.
Gellir cael gwybodaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd am symud i wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd, am gael cydnabyddiaeth am eich cymwysterau, am chwilio am waith yn llwyddiannus, ac am eich hawliau - gweler gwefan Your Europe am fanylion. Mae cymorth hefyd ar gael gan EURES, sef rhwydwaith o ymgynghorwyr cyflogaeth drwy'r UE.