Gall symud i wlad arall i astudio fod yn brofiad bythgofiadwy a fydd yn cyfrannu'n sylweddol at eich hyder a'ch annibyniaeth. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael ar gyfer pobl sy'n dymuno astudio yn Ewrop neu'r tu hwnt, gan gynnwys gwybodaeth am gyfleoedd ariannu a chynlluniau cyfnewid wedi'u seilio ar waith.
Socrates yw rhaglen addysg y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae'n ymwneud â phob cam o addysg o'r ysgol gynradd i'r brifysgol, gan gynnwys addysg oedolion. Erasmus yw rhaglen Addysg Uwch Socrates, ar gyfer helpu myfyrwyr, athrawon a sefydliadau i ddatblygu dimensiwn Ewropeaidd i addysg uwch. Mae'n darparu cyfleoedd a chymorth i fyfyrwyr a staff astudio dramor.
Os ydych chi'n un o ddinasyddion y Gymuned Ewropeaidd, mae gennych chi hawl i wneud cais am gyrsiau astudio addysg uwch llawn yn unrhyw un o wledydd yr UE. Rhaid i chi gael cymwysterau digonol, a dyna'r unig ofyniad.
Cyngor Erasmus Socrates y DU, Ffôn: +44 (0) 1227 762712
Leonardo da Vinci yw enw rhaglen hyfforddi alwedigaethol y Gymuned Ewropeaidd. Mae'n cael ei threfnu yn y DU gan Asiantaethau Cenedlaethol yn y Cyngor Prydeinig ac Ecotec Cyf. Mae Leonardo yn ceisio creu gweithlu mwy hyblyg, mwy cystadleuol a mwy cynhwysol yn gymdeithasol, drwy ddatblygu sgiliau ac ehangu cyfleoedd cyflogaeth. Mae'n cefnogi dulliau hyfforddi ac arwain arloesol er mwyn sicrhau bod hyfforddi galwedigaethol yn fodern ac yn berthnasol i anghenion diwydiannau.
Mae nawdd teithio yn galluogi myfyrwyr sydd mewn hyfforddiant galwedigaethol ac addysg uwch, ynghyd â graddedigion diweddar, ceiswyr gwaith a gweithwyr dan hyfforddiant, i fynd ar leoliadau gwaith mewn cwmni yn un o'r 30 gwlad arall sy'n rhan o'r cynllun. Rhaid gwneud cais drwy sefydliad, gan na all unigolion wneud cais yn uniongyrchol.
Uned Leonardo, Ffôn: +44 (0) 20 7389 4389
Lle da i ddechrau yw'r canllaw 'Study Abroad 2004-2005', sy'n cael ei gynhyrchu gan Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO). Mae ynddo wybodaeth am y math o raglenni astudio sydd ar gael drwy'r byd, cynlluniau addysg o bell a chyrsiau iaith. Mae'r canllaw hefyd yn rhoi gwybodaeth gefndir am systemau addysg cenedlaethol, gofynion mewnfudo, ffioedd ysgolion, ysgoloriaethau a mathau eraill o gymorth ariannol sydd ar gael.
Mae modd gweld y canllaw ar-lein ar wefan UNESCO.
Mae'r rhan fwyaf o gymwysterau gradd gyntaf yng ngwledydd yr UE a gorllewin Ewrop yn cyfateb i'w gilydd. Fe allwch chi weld statws eich cymwysterau yn y wlad rydych chi'n dymuno gweithio neu astudio ynddi drwy gysylltu â'r Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol ar gyfer Cydnabod Cymwysterau Academaidd (NARIC).
Ceir gwybodaeth isod ynghylch cydnabod cymwysterau proffesiynol a galwedigaethol yn Ewrop.
Fe allwch chi hefyd gael taflenni ffeithiau gan y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch symud i wlad arall yn yr UE, ynghylch cael cydnabyddiaeth i'ch cymwysterau a chael cyngor am ddod o hyd i swyddi.