Os byddwch chi'n ymddeol dramor, fe allwch chi barhau i dderbyn pensiwn y wladwriaeth gan y DU.
Os byddwch chi'n symud yn barhaol, dim ond os byddwch chi'n symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu wlad sydd â chytundeb arbennig â'r DU y bydd eich pensiwn yn parhau i gynyddu'n flynyddol. Bydd hefyd angen i chi gydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol.
Mae dolen isod i restr o'r gwledydd sydd yn AEE.
Os ydych chi'n byw yn y DU ac yn bwriadu byw y tu allan i AEE am beth amser, bydd angen i chi gael ffurflen gais BR19 o'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu o'ch swyddfa nawdd cymdeithasol.
Os byddwch chi'n symud i wlad arall yn AEE neu i unrhyw le arall yn y byd, bydd angen i chi roi gwybod i Wasanaeth Pensiwn y DU eich bod yn symud dramor a rhoi'ch cyfeiriad newydd iddynt (manylion cyswllt isod).
Os ydych chi am gael gwybod am eich hawliau pensiwn eich hun mewn gwlad arall yn AEE, rhaid i chi ofyn i'r adran neu'r uned sy'n gyfrifol am bensiynau a budd-daliadau yn y wlad honno. Ewch i wefan llywodraeth y wlad dan sylw.
Gall oedrannau a hawliau pensiwn y wladwriaeth amrywio yn dibynnu ar y wlad y byddwch chi'n byw ynddi.
Fe allwch chi ofyn am gael rhagolwg o'r pensiwn y gallwch ei ddisgwyl gan wladwriaeth y DU hyd at bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran pensiwn y DU.
Bydd y rhagolwg yn rhoi gwybod i chi faint o bensiwn sydd gennych chi ar hyn o bryd ac a fyddwch chi'n gallu cael mwy erbyn i chi gyrraedd oedran pensiwn y DU. Ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw yswiriant y byddwch wedi talu amdano mewn gwlad arall yn AEE.
Os byddwch chi'n byw y tu allan i'r DU, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM i gael rhagolygon pensiwn neu i holi am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dyma'r manylion cyswllt:
Elusennau, Asedau a Phreswylfa Cyllid a Thollau EM
Ystafell BP1301
Benton Park View
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1ZZ
Os ydych chi yn y DU fe allwch chi hefyd ffonio llinell gymorth y Ganolfan i bobl Ddibreswyl (Newcastle) ar:
Ffôn: 0845 915 4811
Os ydych chi'n ffonio neu'n anfon ffacs o'r tu allan i'r DU, deialwch y cod rhyngwladol, yna:
Ffôn: +44 191 225 4811
Mae gan bob gwlad yn AEE ei rheolau ei hun a gall yr oedran derbyn pensiwn amrywio.
Os ydych chi wedi bod yn talu am bensiwn gwladwriaeth y DU, fel arfer bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon ffurflen hawlio atoch bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran derbyn pensiwn yn y DU. Bydd honno'n gofyn a ydych chi'n dymuno hawlio pensiwn ymddeol y DU ac yn gofyn am fanylion unrhyw gyfnodau rydych chi wedi'u treulio mewn gwledydd eraill ac am unrhyw yswiriant gwladwriaeth sydd gennych yn y gwledydd hynny. Os ydych chi'n byw mewn gwlad arall yn AEE ac yn hawlio pensiwn gan y wlad honno, bydd Gwasanaeth Pensiwn y DU yn trosglwyddo manylion eich cais i unrhyw wlad arall yn AEE lle rydych chi wedi'ch yswirio.
Cofiwch roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn pan fyddwch chi'n newid eich cyfeiriad neu efallai na fydd y ffurflen yn eich cyrraedd. Os oes gennych chi ymholiad ynghylch eich pensiwn pan fyddwch chi dramor, fe allwch chi naill ai gwblhau'r ffurflen ar-lein neu gysylltu â Chanolfan Bensiynau Ryngwladol y Gwasanaeth Pensiwn:
Y Ganolfan Bensiwn Ryngwladol
Tyneview Park
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1BA
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)191 218 7777