Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gadael gwaith er mwyn gofalu am rywun

Os ydych chi'n ystyried rhoi'r gorau i'ch gwaith oherwydd eich bod yn teimlo na allwch gyfuno cyflogaeth a gofalu, mae ychydig o bethau i feddwl amdanynt.

Ydych chi eisiau gweithio?

Os ydych chi eisiau gweithio mae sawl dewis i'w ystyried. Er enghraifft, allech chi weithio yn rhan amser, gweithio gartref neu rannu swydd?

Bydd cyflogwyr yn awyddus i gadw staff gwerthfawr felly siaradwch â'ch cyflogwr am ffyrdd y gall eich cynorthwyo i aros yn y gwaith.

Er y byddai gweithio llai o oriau yn effeithio ar eich cyflog efallai y byddai ystyried cyfuno gwaith a gofalu yn un ateb.

Os ydych eisiau gofalu am rywun yn llawn amser

Gall gofalu'n llawn amser roi llawer o foddhad i rywun ac ni fyddai'r rhan fwyaf o ofalwyr yn ystyried cael rhywun arall yn gwarchod y sawl y byddant yn gofalu amdanynt.

Fodd bynnag, bydd y mwyafrif o ofalwyr llawn amser yn gweld bod llai o arian ganddynt ac nad ydynt yn cael rhyw lawer o gyswllt cymdeithasol. Bydd rhai yn colli eu pensiwn galwedigaethol a gallant sylwi bod eu sgiliau'n dirywio.

Os byddwch yn penderfynu gofalu am rywun yn llawn amser ac yna'n dymuno mynd yn ôl i weithio gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth.

Materion ariannol

Os ydych yn bwriadu ymddiswyddo mae'n debyg y byddwch yn meddwl am eich sefyllfa ariannol. Dilynwch y ddolen Lwfans Gofalwr am fwy o wybodaeth.

Ymddiswyddo

Efallai na fydd raid i chi ymddiswyddo er mwyn gofalu am rywun. Mae'n bosib y gallai'ch cyflogwr gynnig y canlynol i chi:

  • seibiant gyrfa - gall y seibiant di-dâl hwn o'r gwaith barhau am gyfnod rhwng chwe mis a thair blynedd
  • diswyddiad gwirfoddol - os nad ydych eisiau mynd yn ôl i weithio i'r un cyflogwr a'i fod wrthi'n mynd drwy'r broses o orfod diswyddo pobl, efallai y bydd eich cyflogwr yn croesawu diswyddiad gwirfoddol
  • ymddeol yn gynnar

Siaradwch â'ch cyflogwr neu â rhywun yn eich adran adnoddau dynol er mwyn gweld a oes unrhyw un o'r opsiynau hyn ar gael i chi.

Asesiad gofalwr

P'un ai'ch bod chi'n dewis gweithio, gofalu ynteu gyfuniad o'r ddau, bydd gennych yr hawl i asesiad gofalwr. Bydd hyn yn ystyried eich anghenion (er enghraifft, a ydych eisiau gweithio) a pha gymorth y bydd ei angen ar y person y gofalwch amdano yn eich absenoldeb

Os nad ydych chi eisiau bod yn ofalwr

Gallech siarad â theulu a ffrindiau er mwyn gweld a all unrhyw un arall ymgymryd â'r rôl o fod yn ofalwr. Ar y llaw arall, os asesir bod angen cymorth ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano, bydd gan eich cyngor lleol ddyletswydd i ddarparu'r gofal hwnnw. Eich cyngor lleol fydd yn penderfynu pa fath o ofal a ddarperir a pha mor gyson y darperir ef. Efallai y gwelwch fod rhywfaint o'r gofal yn cael ei ddarparu ac y bydd angen i chi dalu am y gweddill.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU