Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dychwelyd i'r gwaith

Os ydych yn teimlo eith bod yn methu gweithio oherwydd eich rôl fel gofalwr, ond y byddech yn hoffi gwneud hynny, mae yna ffyrdd o gael help.

Efallai y byddwch eisiau:

  • dychwelyd i weithio pan fydd cyfnod o ofalu wedi dod i ben
  • dychwelyd i weithio neu ddechrau gweithio a chithau'n dal i ofalu am rywun

Sut i gael gwaith

Os nad ydych yn gyflogedig gallech siarad â:

  • phobl eraill sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg
  • sefydliadau sy'n gallu cynnig cyngor
  • cynghorydd cyflogaeth yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol

Rhowch wybod iddynt eich bod naill ai'n gofalu am rywun ar hyn o bryd, neu nad ydych yn gofalu am rywun bellach. Gallant helpu i hwyluso'ch ffordd yn ôl i fyd gwaith a gallant hefyd eich cynghori am gyfleoedd hyfforddi.

Os ydych yn ystyried gwneud cais am swydd, mae'n werth holi beth yw polisi'ch darpar gyflogwr ar ofalwyr. Gofynnwch hefyd am gyfleoedd i weithio oriau hyblyg.

Materion ariannol

Gallai mynd yn ôl i weithio gael effaith ar unrhyw hawliau a budd-daliadau yr ydych chi fel gofalwr yn eu derbyn. Bydd yr oriau a weithiwch, faint y byddwch yn ei ennill a'ch cynilion yn cael eu hystyried. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran arian, treth a budd-daliadau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU