Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofalu am rywun wrth weithio

Mae'n bosib y byddwch yn gweithio pan fydd eich rôl fel gofalwr yn cychwyn. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch cyflogwr am eich sefyllfa.

Siarad â’ch cyflogwr

Yn aml iawn gall pethau annisgwyl godi wrth i chi ofalu am berthynas anabl a gall trefniadau gofal fod yn gymhleth felly bydd angen i chi siarad am eich pryderon a'ch ymrwymiadau gyda'ch cyflogwr.

Os ydych yn dymuno gweithio, byddai er lles pennaf eich cyflogwr i ystyried gwneud newidiadau rhesymol i'ch patrwm gwaith er mwyn eich cynorthwyo i weithio a pharhau i ofalu.

Bydd nifer o gyflogwyr yn cynnig helpu gofalwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd. Meddyliwch am y ffyrdd gorau y gallai eich cyflogwr eich cynorthwyo a siaradwch â hwy am eich anghenion .Efallai y byddwch chi a'ch cyflogwr yn dymuno ystyried y syniadau canlynol.

Trefniadau gweithio

Mae sawl ffordd o weithio'n hyblyg. Gallech weithio oddi cartref neu gael amseroedd cychwyn a gorffen hyblyg. Gallai trefniadau gweithio eraill gynnwys:

  • oriau gweithio cywasgedig (lle byddwch yn gweithio'ch oriau gwaith arferol mewn cyfnod byrach - megis gwneud pum niwrnod o waith mewn pedwar diwrnod)
  • oriau gwaith tymhorol neu oriau sy'n cael eu taenu dros flwyddyn (ble mae nifer yr oriau y bydd gofyn i chi eu gweithio yn ôl eich cytundeb yn cael eu cyflawni mewn modd hyblyg)
  • rhannu swydd neu weithio rhan-amser 
  • gwyliau hyblyg er mwyn cyd-fynd â threfniadau gofal amgen


Cefnogaeth yn y gwaith

Pan fyddwch yn trafod eich swyddogaeth fel gofalwr gyda'ch rheolwr dylai roi i chi'r gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch a gallai hefyd wneud y canlynol:

  • siarad â swyddog lles neu gynghorydd iechyd galwedigaethol sy'n gwybod am ofalwyr
  • cael gafael ar wybodaeth a chyngor mewnol neu ddod o hyd i grwpiau cefnogi/rhwydweithio y gellid eu mynychu
  • derbyn tanysgrifiad i sefydliadau gofalwyr neu wasanaethau ar gyfer gweithwyr

Trefniadau absenoldeb arbennig ac amser i ffwrdd mewn argyfwng

Bydd y mwyafrif o ofalwyr yn ymwybodol bod yr hawl ganddynt i gael absenoldeb mewn argyfwng (naill ai gyda thâl neu'n ddi-dâl) ond bydd trefniadau absenoldeb eraill y gallai'ch cyflogwr eu cynnig. Ymhlith y rhain, mae:

  • absenoldeb gofalwyr (gyda thâl/di-dâl)
  • absenoldeb tosturiol
  • benthyca/prynu absenoldeb
  • seibiant gyrfa

Yr hawl i amser i ffwrdd mewn argyfwng

Bydd gennych yr hawl i gymryd amser 'rhesymol' i ffwrdd os bydd argyfwng yn ymwneud â'r sawl yr ydych yn gofalu amdano, a chithau wedi gweithio i'r cyflogwr am o leiaf blwyddyn.

Gall hyn gynnwys:

  • achosion lle mae trefniadau gofal yn mynd o chwith
  • os bydd y person yr ydych yn gofalu amdano yn mynd yn sâl neu'n cael damwain - mae hyn yn cynnwys poen emosiynol a chorfforol
  • os bydd rhywbeth yn digwydd i'ch plentyn yn ystod oriau ysgol
  • os bydd arnoch angen gwneud trefniadau gofal tymor hir
  • os bydd angen amser i ffwrdd arnoch yn dilyn marwolaeth rhywun sy'n ddibynol arnoch

Gweithio hyblyg

Dan y Ddeddf Cyflogaeth (2002), bydd gan rieni i blant anabl dan 18 oed, dan amgylchiadau lle mae'r rhieni'n gweithio, hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg. Hefyd, bydd gennych hawl i gymryd amser o'r gwaith (yn ddi-dâl) ar gyfer dibynyddion os bydd argyfwng yn codi.

Mathau eraill o gymorth gan eich cyflogwr

Gallai mathau eraill o gymorth y gallech ei gael gan eich cyflogwr gynnwys:

  • mynediad at ffôn fel y gallech ffonio'r person yr ydych yn gofalu amdano
  • man parcio car wedi ei neilltuo, er mwyn ei gwneud yn haws i chi fynd i mewn ac allan o'ch gwaith
  • hysbysiad rhesymol os bydd disgwyl i chi weithio goramser neu weithio oddi cartref

Asesiad gofalwr

Os bydd angen cymorth arnoch gyda'ch swyddogaeth fel gofalwr gallech ofyn i'ch cyngor lleol am asesiad gofalwr. Bydd hyn yn ystyried eich anghenion chi (er enghraifft, os byddwch chi eisiau gweithio a pha fath o gymorth y bydd ei angen arnoch) ac anghenion y person yr ydych yn gofalu amdano.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU