Mae 'na rai hawliau penodol sy'n berthnasol i ofalwyr gan gynnwys hawliau cyflogaeth, hawl i asesiad a derbyn taliadau uniongyrchol.
Dan Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000, mae gan ofalwyr 16 oed a throsodd sy'n darparu gofal sylweddol a chyson i rywun 18 oed a throsodd hawl i gael asesiad o'u hanghenion fel gofalwr.
Os oes mwy nag un gofalwr yn darparu gofal cyson yn eich cartref, mae gan y ddau ohonoch hawl i gael asesiad.
Ambell waith, efallai fod gan berson 16 neu 17 oed sy'n gofalu am rywun am gyfnod hawl i gael asesiad. Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb o hyd i sicrhau lles y gofalwr ifanc a'u bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol.
Os oes gennych gyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl, bydd eich anghenion fel gofalwr yn cael eu hystyried fel rhan o asesiad o anghenion y teulu. Mae gennych hawl i asesiad o anghenion y teulu dan Ddeddf Plant 1989. Does dim rhaid i chi fod yn fam nac yn dad i'r plentyn.
Daw Deddf newydd i rym yn 2005 i hyrwyddo mwy o gyfleoedd i ofalwyr mewn meysydd megis gwaith ac astudio.
Bydd hefyd yn ceisio hyrwyddo proses o gydweithio gwell rhwng cynghorau a'r gwasanaeth iechyd i sicrhau y darperir cefnogaeth i ofalwyr mewn modd cydlynus
Mae Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 hefyd yn galluogi cynghorau lleol i gynnig cefnogaeth i ofalwyr. Gallant ddarparu unrhyw wasanaethau a fydd, yn eu barn hwy, yn cefnogi'r gofalwr yn ei rôl ofalu a'i helpu i ofalu am ei iechyd a'i les personol ei hun.
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy'n cael cefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol hawl i daliadau uniongyrchol.
Taliadau arian ydy'r taliadau uniongyrchol a roddir yn lle darpariaethau'r gwasanaethau cymdeithasol, i unigolion y mae asesiad wedi dangos bod angen gwasanaethau arnynt.
Gellir gwneud taliadau uniongyrchol i ofalwyr 17 oed a throsodd (gan gynnwys pobl gyda chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl, a phobl anabl 16 oed a throsodd).
Ceir rhai amgylchiadau prin lle na roddir taliadau uniongyrchol a gall eich cyngor roi gwybod i chi am y rhain.
Dan Ddeddf Cyflogaeth 2002, mae gan rieni plant anabl dan 18 oed, lle mae'r rhieni'n gweithio, hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg. Hefyd, mae gan ofalwyr hawl i gymryd amser o'r gwaith (yn ddi-dâl) ar gyfer dibynyddion os bydd argyfwng yn codi.
Gall dychwelyd i weithio ar ôl bod yn ofalwr gael effaith ar unrhyw fuddion a budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn fel gofalwr. Bydd yr oriau a weithiwch, faint yr ydych yn ei ennill a'ch cynilion yn cael eu hystyried. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 'Arian' y safle hwn.