Gydol adran 'gofalu am rywun' Directgov, mae'r gair 'gofalwr' yn cyfeirio at rywun sy'n gofalu am ffrind, perthynas neu gymydog y mae angen cefnogaeth arnynt oherwydd eu salwch, eu hoedran neu eu hanabledd.
Nid yw'n golygu gweithiwr gofal proffesiynol mewn cartref nyrsio, er enghraifft - neu rywun a gyflogir gan berson anabl.
Os ydych yn ofalwr, efallai bod gennych chithau hawl i gael cymorth a chefnogaeth. Mae'r adran hon yn cynnwys rhai syniadau ynghylch ble i gael cyngor - ac mae'n cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol y gallech ei dderbyn.
Efallai y gall eich adran gwasanaethau cymdeithasol lleol wneud pethau'n haws i chi ac i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano/amdani. Gallant gynnig cymorth megis cymorth cartref (glanhau, er enghraifft) neu wyliau byr i chi fel gofalwr.
I ganfod pa wasanaethau allai fod o fudd i chi, bydd angen i'r gwasanaethau cymdeithasol drafod y canlynol gyda chi:
Gelwir hwn yn asesiad gofalwr.
Mae'n bosib y cewch ambell wasanaeth ar gyfer eich swyddogaeth chi fel gofalwr yn rhad ac am ddim. Efallai y gofynnir i chi gyfrannu rywfaint o arian tuag at wasanaethau eraill. Ni chodir tâl arnoch am wasanaethau a ddarperir i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.
Os ydych dan 18 oed ac yn gofalu am rywun mae'n bwysig eich bod yn cael cymorth a chefnogaeth. Ni ddylech ysgwyddo'r cyfrifoldebau gofalu y bydd oedolion yn ymgymryd â hwy a bydd pobl a gwasanaethau ar gael i'ch cynorthwyo.
Os ydych yn gofalu am blentyn anabl, bydd eich anghenion chi'n cael eu hystyried yn yr asesiad o anghenion y teulu, trwy eich adran gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Cewch gysylltu â’r cyngor yn uniongyrchol neu cewch ofyn i'ch meddyg teulu gysylltu â'r adran ar eich rhan.
Fel gofalwr, mae gennych hawliau penodol cyfreithiol. Pennir hyn yn Y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal).