Os ydych chi'n darparu gofal sylweddol a chyson i rywun 18 oed a throsodd, mae gennych hawl gofyn i adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol am asesiad gofalwr.
Does dim diffiniad o 'ofal sylweddol a chyson'. Golyga asesiad gofalwr y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn edrych ar eich sefyllfa ac yn gweld a fydd gennych yr hawl i unrhyw wasanaethau a allai wneud y dasg o ofalu yn haws i chi.
Mae'r asesiad yn gyfle i chi helpu'r gweithiwr cymdeithasol i ddeall pa effaith y bydd gofalu yn ei gael arnoch, ac i siarad am y gwasanaethau y gallant eu darparu er mwyn eich cynorthwyo. Felly, mae'n bosib y byddai'n syniad da gwneud rhestr, neu gadw dyddiadur, o bopeth y byddwch yn ei wneud i helpu'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.
Dyma rai pethau y gallech eu hystyried:
Gallech hefyd gynnwys sut y bydd gofalu yn effeithio arnoch oherwydd y canlynol:
Gellir cynnal yr asesiad yn eich cartref neu yng nghartref y sawl yr ydych yn gofalu amdano. I chi mae'r asesiad, ac nid oes angen i'r person yr ydych yn gofalu amdano fod yn bresennol.
Os oes mwy nag un gofalwr yn darparu gofal cyson yn eich cartref, bydd gan y ddau ohonoch hawl i gael asesiad.
Dyma rai gwasanaethau a allai eich helpu chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano:
Cofiwch mai eich anghenion chi fel gofalwr fydd dan sylw yn yr asesiad hwn. Dylid trafod anghenion y person yr ydych yn gofalu amdano pan fydd ei h/anghenion yn cael eu hasesu.
Os bydd eich sefyllfa'n newid, er enghraifft os bydd angen mwy o gefnogaeth arnoch, gallwch ofyn am ailasesiad.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol ble gallwch wneud cais am asesiad gofalwr a/neu gael mwy o wybodaeth.
Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn datblygu 'cynllun gofal' yn seiliedig ar eich asesiad gofal chi ac asesiad gofal cymunedol y sawl yr ydych yn gofalu amdano. Dylai'r cynllun hwn gynnwys y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi yn unol â'r asesiad.
Nid yw eich hawl chi i gael asesiad, a'r gwasanaethau a'r gefnogaeth y gallech eu derbyn, yn gysylltiedig â'ch incwm na'ch cyfalaf (cynilion ac eiddo). Fodd bynnag, ar ôl yr asesiad, bydd eich cyngor lleol yn edrych ar eich incwm a'ch cyfalaf er mwyn penderfynu am ba wasanaethau gofal y byddant yn codi tâl arnoch.
Bydd gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol drefn gwyno ar waith. Os na fyddwch yn hapus gyda'r ffordd y cynhaliwyd yr asesiad neu os na fyddwch yn teimlo eich bod yn cael y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, dylech gysylltu â'r adran.