Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau dros bawb sy'n byw yn y gymuned. Os ydych yn gofalu am rywun, mae adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu cymorth a chyngor. Yn aml, mae awdurdodau lleol yn cael eu galw yn gynghorau lleol.
Dylech allu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel gofalwr ar Directgov. Fodd bynnag, gall gwefan eich awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth fanylach am yr holl wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol.
Dylech allu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel gofalwr ar Directgov. Fodd bynnag, gall gwefan eich awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth fanylach am yr holl wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol.
Mae gan bron bob un o awdurdodau lleol y DU eu gwefan eu hunain.
Er bod adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn gweithredu dan yr un ddeddfwriaeth sylfaenol, nid ydynt o anghenraid yn cael eu trefnu a'u rheoli yn yr un ffordd. Wrth chwilio am wybodaeth leol ar-lein am wasanaethau, mae'n bosib y bydd cyngor ac arweiniad ar gael dan wahanol destunau gan gynnwys:
Gellir dod o hyd i gyngor ac arweiniad dan wahanol bynciau. Gall y rhain gynnwys:
Mae gan y rhan fwyaf o wefannau gyfleuster 'chwilio' a/neu A-Z lle gallwch chwilio am wybodaeth fwy penodol.
Mae dolenni i wasanaethau lleol yn cael eu hychwanegu at Directgov yn gyson. Maent yn amrywio o dalu eich Treth Gyngor ar-lein i roi gwybod am broblem graffiti.
Golyga hyn y gallwch ym mhob rhan o'r wefan hon roi manylion eich cyfeiriad - eich cod post, er enghraifft, - ac yna bydd yn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth.