Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grwpiau cefnogi ar gyfer rhieni plant anabl

Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol siarad â rhieni eraill sydd â phlant anabl. Mae nifer o fudiadau ac elusennau sy'n cynnig grwpiau cefnogi. Rhestrir isod rai o'r gwasanaethau sydd ar gael, neu gallech edrych yn y llyfr ffôn, edrych ar y we neu holi eich gweithiwr iechyd neu'ch gweithiwr cymdeithasol.

Grwpiau anableddau penodol

Ceir rhai grwpiau cymorth ar gyfer rhieni sydd â phlant gydag anableddau penodol. Bydd angen i chi gysylltu â'r elusennau neu'r sefydliadau perthnasol ar wahân.

Cysylltu â gofalwyr eraill

Gall gofalu fod yn unig ar adegau, ond mae ffyrdd o gysylltu â gofalwyr eraill, naill ai dros y ffôn, y rhyngrwyd neu drwy grŵp gofalwyr.

Cael gwybod am grwpiau cefnogi lleol

Efallai bod eich awdurdod lleol yn cynnal grwpiau cefnogi ar gyfer gofalwyr a phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Gwneud cais am wyliau byr i ofalwyr plant yn lleol

ll eich awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau i'ch galluogi i gael seibiant o ofalu am eich plentyn. Gall dewisiadau gynnwys arhosiad byr mewn cartref gofal ar gyfer eich plentyn, neu gael gweithiwr gofal cyflogedig yn eich cartref fel y gallwch chi a'ch teulu gael seibiant. Gelwir gwyliau byr i ofalwyr yn 'ofal seibiant' weithiau.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch wneud cais am seibiant byr neu gael mwy o wybodaeth.

Gwyliau byr ar gyfer plant anabl

Mae'r Rhwydwaith Rhannu Gofal yn fudiad cenedlaethol sy’n darparu gwyliau byr teuluol ar gyfer plant anabl. Mae'r mudiad yn cynrychioli dros 300 o gynlluniau lleol, sy'n cysylltu plant anabl â'r bobl yn y gymuned sy'n darparu gofal tymor byr rheolaidd.

ParentsCentre

Gallwch ymweld â gwefan ParentsCentre er mwyn cael gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch helpu i ddysgu'ch plentyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU