Efallai y bydd nifer o bobl yn gysylltiedig â gofal eich plentyn anabl. Mae'n bosib y byddwch yn gyfarwydd ag ambell un - fel y meddyg, er enghraifft - ond efallai y bydd eraill yn newydd i chi.
Mae'n bosib y gallai eich meddyg lleol roi gwybodaeth i chi am gyflwr eich plentyn ac am y driniaeth sydd ar gael. Os na fedr wneud hyn, bydd modd i'r meddyg gyfeirio'ch plentyn at arbenigwr. Bydd eich meddyg hefyd yn medru cyfeirio eich plentyn at unrhyw brofion neu driniaeth ysbyty a allai fod yn angenrheidiol a rhoi gwybod i chi am unrhyw glinigau neu sefydliadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Mae gan rai teuluoedd weithiwr allweddol. Bydd gweithiwr allweddol yn eich gweld yn rheolaidd ac yn sicrhau y byddwch yn cael yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen. Byddant hefyd yn sicrhau y bydd gwasanaethau o'r holl adrannau gwahanol, gan gynnwys iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, yn cael eu cydlynu'n dda.
Gall gweithwyr allweddol weithredu fel cyswllt canolog rhwng pobl broffesiynol a fydd yn gweithio gyda'ch teulu a gallant rannu gwybodaeth lle bydd angen.
Meddygon sy'n arbenigo mewn gweithio â phlant yw pediatryddon. Efallai bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at bediatrydd os byddwch yn bryderus ynghylch datblygiad eich plentyn.
Mae'n bosib y bydd pediatryddon yn gallu rhoi diagnosis i chi am gyflwr eich plentyn, ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych a'ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol.
Mae therapyddion galwedigaethol pediatrig yn arbenigo mewn gweithio â phlant. Byddant yn cynnal asesiadau er mwyn gweld a fyddai'ch plentyn yn elwa o ddefnyddio cyfarpar arbenigol megis cwpanau wedi'u haddasu, coetsys neu gadeiriau ac yn darparu cyngor am godi a thrin eich plentyn mewn modd diogel.
Gall therapyddion galwedigaethol pediatrig hefyd helpu plant i wella sgiliau fel:
Bydd gweithiwr cefnogi cyfathrebu yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon er mwyn darparu iaith arwyddion ar gyfer plant ifanc byddar mewn meithrinfeydd neu ysgolion.
Bydd Portage yn ymweld â chartrefi i ddarparu addysg i blant dan oed ysgol sydd ag anghenion addysgol arbennig. Fe'i darperir fel arfer gan awdurdodau addysg lleol. Nod Portage yw cefnogi datblygiad plant ifanc yn y modd y maent yn chwarae, yn cyfathrebu ac yn eu perthynas ag eraill.
Bydd Portage hefyd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd drwy roi i rieni y cymorth ymarferol angenrheidiol er mwyn bod yn rhan o addysg eu plentyn a chynorthwyo â dysgu a gweithgareddau dydd i ddydd eu plentyn.
Gall gweithiwr Portage fod yn athro, therapydd lleferydd, nyrs feithrin, rhiant neu'n wirfoddolwr gyda phrofiad perthnasol
Aelod o staff mewn meithrinfa, grup chwarae plant neu ysgol fydd y cydlynydd anghenion addysgol arbennig, a bydd yn cydlynu gweithgareddau a gwasanaethau anghenion addysgol arbennig o fewn yr ysgol honno. Mewn ysgol fach efallai mai'r pennaeth neu'r dirprwy fydd yn ysgwyddo'r rôl hon. Mewn ysgol fwy efallai y bydd tîm cydlynu anghenion addysgol arbennig.
Gelwir athro cymwysedig sydd hefyd wedi hyfforddi i fod yn seicolegydd yn seicolegydd addysg. Gallant asesu datblygiad eich plentyn, darparu cymorth a chyngor a gallant eich cynorthwyo i gynllunio gweithgareddau a/neu wasanaethau ar gyfer y dyfodol.