Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofal plant ar gyfer plentyn anabl

Mae rhai pethau ychwanegol i chi feddwl amdanynt wrth ystyried gofal plant ar gyfer plentyn anabl, ond er hyn, bydd nifer o'r ystyriaethau yr un fath ag ar gyfer unrhyw blentyn arall.

Pethau i'w hystyried

Beth bynnag yw oedran, gallu neu amgylchiadau'r plentyn, mae'n debyg y bydd pob rhiant yn meddwl am y canlynol:

  • pa fath o ofal plant a fyddai'n gweithio orau ar gyfer eich teulu chi - gwarchodwr plant, meithrinfa ynteu ofal ar ôl ysgol?
  • a yw'r gofalwr wedi cael ei gofrestru gan Ofsted (os yw'ch plentyn dan wyth oed)?
  • a fydd y gweithgareddau'n addas ar gyfer gallu eich plentyn?
  • a yw'r gofalwr/y lleoliad yn ddiogel ac yn gyfeillgar ac a fyddech chi'n tybio y byddai'ch plentyn yn hapus yn yr amgylchedd?

Efallai y bydd angen i chi hefyd feddwl am gwestiynau megis:

  • a oes gan y gofalwr brofiad o warchod plentyn ag anabledd tebyg, ac os nad yw'r gofalwr yn meddu ar y profiad hwnnw, a fyddent yn fodlon i chi ddangos beth y bydd angen iddynt ei wneud?
  • faint o ofal arbenigol y bydd ei angen ar eich plentyn ac a oes hyfforddiant priodol ar gael yn lleol?
  • a fydd gan eich plentyn therapi neu apwyntiadau y bydd angen iddo fynd iddynt yn ystod yr amser y bydd yn cael ei warchod ac a fyddai'r grŵp chwarae, y feithrinfa neu'r ysgol yn medru danfon eich plentyn i'r apwyntiadau hyn?

Plant gydag anghenion meddygol

A fydd angen hyfforddiant neu offer arbenigol ar y gwarchodwyr? Yn aml, bydd angen i warchodwyr gael hyfforddiant penodol er mwyn rhoi meddyginiaethau. Fel rhiant, bydd eich meddyg, eich nyrs neu'ch ymwelydd iechyd yn dangos i chi sut mae rhoi meddyginiaeth i'ch plentyn. Gallwch ofyn i'r un person roi'r hyfforddiant hwn i warchodwr newydd eich plentyn.

Dylai'ch gweithiwr cymdeithasol neu'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) lleol allu dweud mwy wrthych.

Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (SENCOs) Blynyddoedd Cynnar

Efallai bydd gan feithrinfeydd ac ysgolion Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) a fydd yn creu cyfleoedd ar gyfer plant anabl fel y gallant fwynhau'r holl weithgareddau a gynigir gan y feithrinfa neu'r ysgol.

Bydd SENCOs Blynyddoedd Cynnar lleol yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i feithrinfeydd ac ysgolion drwy roi hyfforddiant iddynt, cynnig cyngor arbenigol a chysylltu ag ysgolion pan fydd y plentyn yn barod i gychwyn addysg amser llawn. Gall SENCOs a SENCOs lleol roi llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni plant a chanddynt anghenion arbennig.

Gwasanaethau Gwybodaeth Plant ac addysg gynnar

Bydd gan eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol fanylion am y dewis llawn o ofal plant a chyfleoedd addysg gynnar yn eich ardal leol. Efallai y gallant hefyd roi gwybod i chi am wasanaethau arbenigol eraill a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer eich plentyn oherwydd ei anabledd, megis y Rhaglen Cymorth Cynnar.

Bydd gan bob plentyn dros dair oed yr hawl i le rhan amser di-dâl mewn lleoliad blynyddoedd cynnar cyn iddynt gael eu trosglwyddo i ysgol amser llawn. Os bydd angen gofal dydd amser llawn arnoch, efallai bydd modd i chi dalu am oriau ychwanegol yn y lleoliad blynyddoedd cynnar fel y gallwch chi gychwyn gweithio, dychwelyd i'r gwaith neu gymryd seibiant oddi wrth eich cyfrifoldebau gofalu.

Gwarchodwyr plant

Bydd gwarchodwyr plant yn gofalu am blant yng nghartref y gwarchodwr. Byddant fel arfer yn rhieni eu hunain ac o bosib wedi gofalu am blentyn anabl o'r blaen.

Ymwelwch â'r gwarchodwr plant er mwyn profi'r amgylchedd a gweld a yw'r plant eraill yn hapus wrth chwarae. Siaradwch â'r gwarchodwr am y mathau o weithgareddau y byddant yn eu gwneud ac am y gofal y bydd ei angen ar eich plentyn. Gallwch ddefnyddio gwarchodwr plant ar gyfer gofal drwy'r dydd neu ofal cyn ysgol neu ar ôl ysgol.

Meithrinfeydd dydd

Ar gyfer plant hyd at bump oed mae meithrinfeydd awdurdodau lleol fel arfer. Fel arfer, rhoddir y llefydd hyn i'r plant sydd eu hangen fwyaf.

Siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol i weld a oes lle yn un o feithrinfeydd eich awdurdod lleol. Efallai y cynigir lleoliad di-dâl am ddim i chi ac y gallwch dalu'n ychwanegol i'w wneud yn lleoliad amser llawn os ydych chi'n dymuno.

Efallai y gallwch hefyd ddod o hyd i le i'ch plentyn mewn meithrinfa ddydd breifat.

Grwpiau cyn-ysgol neu gylchoedd chwarae

Bydd cylchoedd cyn-ysgol yn darparu gofal ac addysg gynnar i blant rhwng tair a phump oed, yn aml mewn sesiynau sy'n para rhwng dwy awr a hanner a phedair awr, er bod rhai yn dechrau cynnig lleoedd amser llawn erbyn hyn. Dim ond yn ystod y tymor y bydd y mwyafrif ar agor, ond holwch yn lleol er mwyn gweld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Megis gyda meithrinfeydd dydd, fel arfer, bydd lleoliadau addysg gynnar ran-amser di-dâl ar gael ac mae'n bosibl y gellid darparu cefnogaeth ychwanegol i blant anabl drwy gyfrwng eich Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) lleol.

Clybiau y tu allan i'r ysgol

Ceir nifer o glybiau y tu allan i'r ysgol ac mae rhai ysgolion wedi datblygu i fod yn 'ysgolion estynedig', sy'n cynnig clybiau brecwast (o 8am) a chlybiau ar ôl ysgol (gan amlaf tan 6pm). Gallwch holi'r ysgol y bydd eich plentyn yn ei mynychu er mwyn gweld a oes clybiau ar gael.

Pa bynnag wasanaeth y penderfynwch arno

Cofiwch, chi yw'r arbenigwr ar eich plentyn. I wneud yn fawr o ofal plant:

  • rhowch wybodaeth eglur a manwl i'r gofalwr am anghenion, meddyginiaeth, apwyntiadau, hoff bethau a chas bethau eich plentyn
  • cymerwch eich amser ac ymwelwch â'r gwarchodwr plant, y cylch cyn-ysgol/grŵp chwarae neu'r feithrinfa (fwy nag unwaith os dymunwch)
  • cytunwch ar gyfnod 'ymgyfarwyddo'. Dyma'r cyfnod lle byddwch yn aros gyda'ch plentyn er mwyn gweld sut bydd y gwarchodwr a'r plentyn yn cyd-dynnu. Gallwch ddal ati i wneud hyn nes byddwch yn hapus i adael y plentyn am gyfnodau byr cyn y byddwch yn teimlo'n gyfforddus i adael y plentyn am y sesiwn gyfan

Gwahaniaethu

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn nodi dau brif ddyletswydd ar gyfer darparwyr gofal plant:

  • ni ddylent drin plentyn anabl mewn modd ‘llai ffafriol’
  • dylent wneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer plant anabl

Yn aml iawn, gall trafodaeth agored gyda'r darparwr gofal plant ynghylch anghenion eich plentyn, yn cynnwys, er enghraifft, therapydd galwedigaethol neu seicolegydd lle bydd hynny'n angenrheidiol, arwain at well dealltwriaeth o anghenion eich plentyn a sut gellir rheoli'r rhain.

Cael gwybod am ofal plant cyn ac ar ôl ysgol yn lleol

Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion lle'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth am ofal plant cyn ac ar ôl ysgol yn eich ardal chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU