Os ydych chi'n rhiant i blentyn ifanc anabl efallai y cewch gymorth gan y Rhaglen Cymorth Cynnar. Mae'r rhaglen hon yn fan cychwyn i ganfod mwy am anabledd eich plentyn.
Mae'r rhaglen:
Mae Pecyn Teulu Cymorth Cynnar ar gael hefyd sy'n rhoi gwybod i rieni am wasanaethau a allai eu cefnogi. Bydd hefyd yn helpu teuluoedd i wybod beth i'w ddisgwyl o safbwynt darpariaeth gwasanaeth da ac am beth y dylid gofyn.
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys ffolder gwybodaeth gefndir ac ynddi lyfrynnau sy'n egluro'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a beth ddylent ei ddarparu i chi yn ogystal â gwybodaeth am ofal plant, cymorth ariannol (er enghraifft, Lwfans Byw i'r Anabl), gwybodaeth am addysg a mwy.
Rhan o'r pecyn Cymorth Cynnar yw'r ffeil deulu. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Mae adran o'r enw 'cyflwyno ein hunain' ar gyfer ysgrifennu gwybodaeth am bethau megis anabledd eich plentyn, ei hanes meddygol, beth mae'n ei hoffi a beth nad yw'n ei hoffi, pa iaith a ddefnyddir yn y cartref a mwy. Bydd llawer o rieni a gofalwyr yn sylweddoli eu bod yn ailadrodd eu hunain felly mae'r rhan hwn o'r pecyn yn anelu at gwtogi'r amser y byddwch yn ei dreulio yn dweud yr un pethau wrth bobl wahanol.
Gall unrhyw berson proffesiynol fydd yn dod i weithio â'ch teulu, er enghraifft therapydd galwedigaethol neu nyrs, ysgrifennu eu manylion cyswllt yn yr adran hon. Mae'n golygu bod yr holl enwau a rhifau perthnasol yn cael eu cadw mewn un lle rhag ofn y bydd arnoch eu hangen.
Yn y fan hon gallwch restru'r holl gyfarfodydd y byddwch yn eu cael gyda phobl broffesiynol ac mae lle i ysgrifennu unrhyw gamau sy'n dilyn. Teimla rhai gofalwyr ei bod yn ddefnyddiol dweud wrth aelod arall o'r teulu nad oedd yn bresenol yn y cyfarfod beth ddigwyddodd. Yn aml iawn bydd llawer o fanylion i'w cofio a dyma ffordd o gofnodi'r pethau y siaradwyd amdanynt.
Dyma lle byddwch chi a'r bobl broffesiynol fydd yn gweithio â chi yn ysgrifennu am y gwasanaethau a'r gefnogaeth a fyddai o gymorth i'ch plentyn yn eich barn chi, ac yn sefydlu cynllun i nodi pwy fydd yn darparu cymorth a phryd y byddant yn gwneud hynny.
Wrth ysgrifennu beth y gall eich plentyn ei gyflawni ar hyn o bryd fe welwch faint y bydd wedi datblygu dros gyfnod o amser.
Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol siarad â rhieni a gofalwyr eraill sydd yn yr un sefyllfa a'ch teulu chi. Dyma'r lle i wneud rhestr o'r sefydliadau lleol a allai fod o ddiddordeb i chi. Mae'n debyg y bydd eich gweithiwr allweddol (rhywun sy'n cydlynu gofal eich plentyn) yn gallu dweud wrthych pa sefydliadau sydd ar gael yn eich ardal chi.
Mae llefydd i chi roi ffotograffau ac i ysgrifennu rhestrau o gwestiynau y gallech fod eisiau'u gofyn. Bydd brodyr a chwiorydd yn aml yn mwynhau bod yn rhan o ludo a thynnu lluniau ar y tudalennau priodol.
Am ragor o wybodaeth am y pecynnau hyn siaradwch â'ch gweithiwr allweddol neu'ch ymwelydd iechyd. Efallai bydd pecynnau a llyfrynnau ar gael yn eich canolfan blant leol neu ewch i wefan Cymorth Cynnar sy'n cynnwys yr holl wybodaeth ar ffurf PDF.
Cael gwybod ynghylch y mathau o gefnogaeth sydd ar gael i gynyddu annibyniaeth eich plentyn, yn cynnwys grantiau, addasiadau,a chyfarpar. Mae gan y Sefydliad Byw'n Anabl nifer o daflenni ffeithiau'n manylu symudedd, byw beunyddiol a chyfarpar chwarae i blant.