Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth ychwanegol i’ch plentyn

Mae llawer o gymorth ar gael i chi a'ch plentyn a hwnnw'n cael ei ddarparu gan fudiadau a phobl broffesiynol hyfforddedig. Darperir rhwydwaith o wasanaethau ar gyfer plant ifanc anabl gan awdurdodau iechyd, awdurdodau addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

Gall yr unigolion yn y rhwydwaith hwn gynnwys meddygon, gweithwyr cymdeithasol, ymwelwyr iechyd, arbenigwyr megis therapyddion lleferydd a ffisiotherapyddion, athrawon a staff cefnogi.

Gall eich cyngor lleol ddweud wrthych am y gwasanaethau sydd ar gael a'r amrediad gorau o opsiynau ar eich cyfer chi a'ch plentyn.

Cychwyn Cadarn

Cynllun gan y llywodraeth yw Cychwyn Cadarn ar gyfer pob plentyn, rhieni a chymunedau ac mae'n darparu addysg gynnar am ddim a gwell gofal plant. Mae gan y prosiect ymrwymiadau arbennig i blant ag anableddau.

Bydd pobl broffesiynol yn gweithio gyda chi er mwyn:

  • diffinio natur anghenion eich plentyn a'r effaith ar eich teulu
  • edrych ar y gefnogaeth sydd ei hangen a chytuno ar y math o gyfarpar, gofal meddygol, therapi, gwybodaeth a chyngor ymarferol y bydd eu hangen arnoch o bosib
  • cytuno ar sut, ble a phryd y bydd y gefnogaeth yn cael ei darparu i chi

Mudiadau gwirfoddol

Ceir llawer o elusennau a mudiadau gwirfoddol sy'n gallu rhoi cefnogaeth i chi a'ch plentyn yn ystod cyfnod datblygu'r blynyddoedd cynnar. Mae llawer o'r mudiadau hyn yn arbenigo mewn helpu plant gydag anableddau neu namau penodol.

Grwpiau cefnogi rhieni

Gall grwpiau cefnogi rhieni roi cyfle i chi gyfarfod â theuluoedd eraill â phlant ifanc anabl. Gallant gynnig cyngor ymarferol yn ogystal â chymorth emosiynol gan rieni sy'n mynd trwy'r un profiadau â chi.

Mae elusennau a mudiadau gwirfoddol yn llefydd da i ddechrau chwilio am grwpiau cefnogi yn eich ardal.

Cael gwybod am grwpiau cefnogi lleol i ofalwyr

Efallai y gall eich awdurdod lleol roi gwybod ichi am grwpiau cefnogi ar gyfer gofalwyr yn eich ardal leol. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cefnogaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig

Mae cefnogaeth arbenigol ar gael drwy ysgolion, ysgolion meithrin ac awdurdodau lleol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig - neu blant y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i'w helpu i ddysgu.

Os na all eich plentyn fynychu’r ysgol am resymau meddygol

Os na all eich plentyn fynd i'r ysgol oherwydd eu hanghenion meddygol neu broblemau iechyd, mae gan eich awdurdod lleol gyfrifoldeb i ganiatáu iddynt barhau â'u haddysg, cyn belled â bod eu cyflwr yn caniatáu hynny. Mae modd cyflawni hyn trwy wersi yn yr ysbyty, er enghraifft.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU