Mae'n bwysig deall y cymorth ariannol, ymarferol ac emosiynol sydd ar gael i chi fel gofalwr ac i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.
Budd-daliadau i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano
Mae’n bosib y bydd gan y sawl yr ydych yn gofalu amdano hawl i’r canlynol:
Mae rheolau arbennig i helpu pobl sy'n angheuol wael i gael Lwfans Byw i'r Anabl neu Lwfans Gweini.
Lwfans Gofalwr
Fel gofalwr, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn Lwfans Gofalwr. Gallwch barhau i dderbyn hwn am hyd at 12 wythnos os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n mynd i'r ysbyty, a hyd at bedair wythnos os byddant yn mynd i gartref gofal - ar yr amod bod rhai amodau penodol yn cael eu cyflawni.
Os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n marw, bydd y Lwfans Gofalwr fel arfer yn dod i ben ar ôl wyth wythnos.
Cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol gynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol a chyfarpar i bobl sy'n angheuol wael.
Asesiadau gan eich gwasanaethau cymdeithasol lleol
Asesiad gyda gwasanaethau cymdeithasol yw'r cam cyntaf ar gyfer cael cymorth a chefnogaeth ar eich cyfer chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano. Mae gan y sawl yr ydych yn gofalu amdano hawl i gael asesiad iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae gennych chi fel gofalwr hawl i gael asesiad gofalwr.
Er y gall ffrindiau a theulu ddarparu cymorth emosiynol yn ystod y cyfnod anodd hwn, efallai y cewch hi'n haws siarad â chwnselydd proffesiynol neu â gofalwyr eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Mae'n bosib y gall y sawl yr ydych yn gofalu amdano ac aelodau eraill o'r teulu gael budd o gwnsela hefyd.
Dod o hyd i gwnselydd
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain yw'r corff proffesiynol ar gyfer cwnselwyr. Gallwch chwilio am gwnselwyr cofrestredig yn eich ardal leol ar eu gwefan
Grwpiau cefnogaeth i ofalwyr
Mae'n bosib y bydd grwpiau cefnogaeth i ofalwyr yn eich ardal leol, a allai roi cyfle i chi i siarad â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa â chi.
Gofal meddygol a nyrsio
Os bydd ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano angen gofal meddygol neu ofal nyrsio arbenigol er mwyn iddyn all parhau i fyw gartref, gallwch drefnu hyn trwy eu Meddyg Teulu. Dyma rai o'r gwasanaethau a allai fod ar gael:
Gall gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) amrywio o ranbarth i ranbarth, ond bydd bob amser yn rhad ac am ddim.
Seibiannau byr
Mae'n bosib y byddwch chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano yn elwa o gael seibiant byr o ofalu o bryd i'w gilydd. Weithiau, gelwir hyn yn 'ofal seibiant'. Gallwch drefnu seibiannau byr trwy'ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol. Efallai y gall grŵp gofalwyr lleol ddarparu ychydig o gymorth hefyd, er enghraifft, hanner diwrnod o ofal ryw unwaith neu ddwy y mis.
Cyflogi gofalwr proffesiynol
Os ydych yn gofalu am rywun sydd angen llawer o ofal, gallwch ddewis cyflogi gofalwr (neu ofalwyr) proffesiynol i rannu'r baich o ofalu gyda chi.
Gofal hosbis
Unedau preswyl yw hosbisau sy'n darparu gofal yn benodol ar gyfer pobl sy'n angheuol wael, ac sy'n cynnig cymorth i'r rhai hynny sy'n gofalu amdanynt.
Mae hosbisau'n arbenigo mewn gofal lliniarol, sy'n anelu at wneud diwedd bywyd person mor gyfforddus â phosib ac i leddfu eu symptomau pan na fydd iachâd yn bosib mwyach. Caiff hosbisau eu rhedeg gan dîm o feddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr a gwirfoddolwyr hyfforddedig. Bydd llawer o hosbisau'n cynnig cwnsela adeg profedigaeth.
Weithiau, gall staff hosbisau ymweld â phobl gartref, ac maent yn aml ar alwad 24 awr y dydd. Mae hefyd yn bosib i gleifion dderbyn gofal dydd yn yr hosbis heb symud i fyw yno, neu i aros yno am gyfnod byr er mwyn rhoi seibiant i'w gofalwyr.
Ni chodir tâl am ofal hosbis, ond rhaid i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano fod wedi'i gyfeirio at hosbis gan eu Meddyg Teulu, meddyg ysbyty neu nyrs ardal
Gofal ysbyty
Efallai y bydd adegau pan fydd angen i berson angheuol wael fynd i'r ysbyty. Os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n dychwelyd adref ar ôl arhosiad yn yr ysbyty, dylai'r GIG a'ch awdurdod lleol gydweithio i ddiwallu eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol parhaus. Dylid asesu anghenion y person cyn iddynt adael yr ysbyty, a dylid trefnu pecyn gofal ar eu cyfer.
Cartrefi gofal
Os bydd ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano angen lefel o gymorth nad oes modd ei ddarparu yn eu cartref eu hunain, yna, efallai mai cartref gofal yw'r ateb. Ceir gwybodaeth fanwl am gartrefi gofal yn adran 'iechyd a lles' Directgov.
Mae'n naturiol i rywun sy'n angheuol wael ddymuno trefnu eu materion a gwneud penderfyniadau ynghylch pa fath o driniaeth feddygol y dymunant (neu na ddymunant) ei chael ar ddiwedd eu bywyd. Mae adran 'hawliau a chyfrifoldebau' Directgov yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ewyllysiau, ewyllysiau byw a'r hawl i wrthod triniaeth feddygol ac
Beth i'w wneud ar ôl marwolaeth
Pan fydd rhywun yn marw, mae rhai pethau y bydd angen i chi eu gwneud ar unwaith, neu o fewn y diwrnodau a'r wythnosau cyntaf. Mae adran 'hawliau a chyfrifoldebau' Directgov yn cynnwys arweiniad ar beth i'w wneud ar ôl marwolaeth.
Cwnsela mewn profedigaeth
Pan fydd rhywun agos atoch yn marw, efallai y gallech elwa o gwnsela gan gwnselydd profedigaeth arbenigol. Gall yr elusen Gofal Galaru Cruse eich helpu gyda hyn.
Budd-daliadau a phrofedigaeth
Os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n marw, bydd y Lwfans Gofalwr fel arfer yn dod i ben ar ôl wyth wythnos.
Os yw eich priod neu'ch partner sifil wedi marw, mae'n bosib y gallwch hawlio un neu fwy o'r budd-daliadau profedigaeth canlynol: