Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofalwyr a dysgu

Efallai eich bod chi, fel gofalwr, yn meddwl ei bod yn amhosib cael amser i ddysgu - ond mae sawl ffordd y gallwch ddysgu ochr yn ochr â'ch dyletswyddau fel gofalwr.

Bydd y rhan fwyaf o ofalwyr yn cael llawer o fwynhad o ddilyn cyrsiau addysg a dysgu a'r rhyddid a gânt wrth gael amser i'w hunain. Er y gallech chi fod yn bryderus i ddechrau, mae cymorth ar gael - o ddod o hyd i'r cwrs iawn i gyllido a sut i drefnu gofal amgen.

Y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004

Daeth y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004 i rym ym mis Ebrill 2005, er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau y bydd pobl heb gyfrifoldebau gofalu yn aml yn eu cymryd yn ganiataol. Er enghraifft, gwaith, astudio neu weithgareddau hamdden.

Dod o hyd i'r cwrs iawn

Mae rhai colegau yn cynnal cyrsiau yn arbennig ar gyfer gofalwyr. Yn aml iawn, bydd amgylcheddau'r cyrsiau hyn yn anffurfiol ac yn gyfeillgar lle byddwch yn cael eich annog i astudio rhaglen arbennig a fydd yn gweddu i'ch arddulliau dysgu chi, eich dyletswyddau gofalu a'ch amcanion personol.

Nawdd

Gallwch ofyn i'ch sefydliad gofalwyr lleol neu i'r gwasanaethau cymdeithasol a oes unrhyw nawdd i'w gael i ddysgu drwy gyfrwng Grant Gofalwyr yr awdurdod lleol.

Y Coleg Estyn Cenedlaethol

Mae'r Coleg Estyn Cenedlaethol yn darparu cyrsiau astudio gartref. Mae'n bosib i chi gael ffioedd gostyngol ar gwrs gan y Coleg Estyn Cenedlaethol os ydych:

  • yn ofalwr
  • yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm
  • yn 16 oed neu'n hŷn
  • rydych chi'n byw yn Lloegr
  • yn bwriadu dilyn cwrs lefel 2 (TGAU neu Sgiliau Sylfaenol)

Mae'n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer cynllun Mynediad Cyfartal i Ddysgu Agored (EATOL) y Coleg Estyn Cenedlaethol. Golyga Mynediad Cyfartal i Ddysgu Agored y gallech dalu £50 ac unrhyw ffioedd arholiadau. Byddwch hefyd yn cael cymorth gan fentor personol trwy gydol y cwrs.

Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael.

Ysgoloriaethau Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr

Os ydych mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr, mae'n bosib y gallwch wneud cais iddynt am ysgoloriaeth (arian a roddir i fyfyrwyr yw ysgoloriaeth).

Mae arian ar gael:

  • ar gyfer gofalwyr sy'n gofalu ar hyn o bryd neu sydd wedi rhoi'r gorau i ofalu yn ystod y chwe mis diwethaf
  • er mwyn cael ei ddefnyddio ar gyfer addysg, datblygiad personol, pleser neu sgiliau er mwyn dychwelyd i'r gwaith
  • ar gyfer ffioedd cwrs, llyfrau neu gyfarpar (nid yw hyn yn cynnwys cyfrifiaduron na gofal seibiant)

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â chanolfan leol Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.

'Dysgu ar gyfer Byw' - cwrs City & Guilds

Rhaglen ddysgu ar-lein i ofalwyr yw 'Dysgu ar gyfer Byw'. Mae'n cefnogi datblygiad personol, yn adeiladu ar sgiliau presennol a gall helpu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol.

Gellir defnyddio'r rhaglen - a all arwain at gymhwyster - ar unrhyw gyfrifiadur sydd wedi cysylltu â'r rhyngrwyd - er enghraifft, yn eich cartref, yn eich coleg neu yn eich llyfrgell leol.

Ffyrdd eraill o gael arian

Bydd rhai colegau yn rhoi gostyngiadau i ofalwyr ar fudd-daliadau a bydd rhai yn darparu nawdd ar gyfer costau teithio a ffioedd cwrs. Cysylltwch â'r coleg sy'n cynnig y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo am fwy o wybodaeth.

Mae gan rai cwmnïau masnachol gynlluniau ar gael. Efallai y cewch wybodaeth o'ch canolfan gofalwyr leol neu gallech chwilio ar y we.

Gofal amgen

Efallai bydd angen i chi ddod o hyd i rywun i ymgymryd â'ch dyletswyddau gofalu wrth i chithau astudio.

Wrth wneud asesiad gofalwr, dylai'r gwasanaethau cymdeithasol ystyried a oes arnoch eisiau astudio a sut y byddwch am i rywun arall gymryd eich rôl fel gofalwr tra'ch bod yn dysgu.

Os nad ydych wedi cael yr asesiad, dylech ystyried cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cael un.

Efallai bydd gan eich cyngor lleol gynlluniau ar gael i'ch cynorthwyo i gymryd seibiant dros dro o ofalu tra'ch bod yn astudio. Cysylltwch â'ch cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Crossroads

Sefydliad sy'n darparu gofal seibianter er mwyn i chi gael amser i'ch hun yw Crossroads. Mae llawer o gynlluniau ar gael yng Nghymru a Lloegr.

Gofalu am rywun wrth weithio?

Am gymorth a chyngor am gyfuno gweithio a gofalu, ynghyd â dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o ofalu, gweler 'gofalwyr a chyflogaeth'.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU