Gall cael amser i chi'ch hun wneud gwahaniaeth mawr i chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.
Un syniad yw gofyn i'r teulu, ffrindiau neu gymydog efallai ddarparu ychydig o ofal. Gallai hyn olygu awr neu ddwy yr wythnos er mwyn i chi gael ymlacio neu fynd i weld ffrindiau.
Efallai y gall grŵp gofal lleol ddarparu hanner diwrnod o ofal ryw unwaith neu ddwy y mis. Ceir grwpiau gofalwyr mewn sawl rhan o'r wlad. Mae gan rai ardaloedd weithwyr sy'n gweithio gyda gofalwyr i gydlynu grwpiau a chael cefnogaeth i bobl.
Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau er mwyn rhoi seibiant i ofalwyr. Weithiau, efallai mai dim ond ychydig o ddewis sydd ar gael neu efallai bod yn rhaid aros amdanynt. Mae'n bwysig cael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt.
Dyma rai gwasanaethau a allai'ch helpu i gael seibiant:
Gallai'ch awdurdodau lleol weithio gyda mudiadau gwirfoddol neu elusennau ar draws y wlad a defnyddio darparwyr seibiannau byr arbenigol er mwyn rhoi seibiant i chi.
Gellir darparu seibiant mewn sawl ffordd ac nid yw o angenrheidrwydd yn golygu mynd oddi cartref. Efallai y byddwch chi a'r person yr ydych yn gofalu amdano am aros gyda'ch gilydd yn ystod y seibiant - neu efallai ddim.
Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod chi, a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano, yn hapus gyda'r trefniadau sy'n cael eu gwneud.
Gallwch lenwi manylion am ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i wefan eich awdurdod lleol, ble gallwch wneud cais am seibiant tymor byr a/neu gael gwybod mwy.
Talebau
Mae'n bosib y bydd modd i chi a'r person y byddwch yn gofalu amdano dderbyn talebau gan eich awdurdod lleol ar gyfer cael gwyliau byr. Bydd hyn yn rhoi i chi'r rhyddid i ddewis pryd i gael seibiant a ble i fynd. Nid yw'r cynlluniau hyn ar gael ymhob man ac felly holwch eich gwasanaethau cymdeithasol lleol.