Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofalu amdanoch eich hun fel gofalwr

Os ydych yn ofalwr, mae gennych hawl i weld eich anghenion iechyd personol chi'n cael eu diwallu - yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae rhoi eich hun yn gyntaf yn golygu eich bod mewn sefyllfa well i ymgymryd â'ch rôl ofalu.

Nid yw'r adran hon yn trafod byw'n iach fel y cyfryw - ceir hynny yn adrannau 'Iechyd a Lles' a 'Dros 50' y wefan hon - mae'n fwy o arweiniad i roi gwybod i bobl eich bod yn ofalwr, i'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch ac i gael seibiant o ofalu.

Eich meddyg

trafodwch unrhyw broblemau sydd gennych, yn enwedig os ydych yn teimlo'n bryderus neu dan straen

Mae holi'ch meddyg teulu yn lle da i ddechrau cael gwybodaeth a chymorth. Cofiwch na fydd eich meddyg teulu o anghenraid yn gwybod eich bod yn ofalwr. Trafodwch unrhyw broblemau sydd gennych, yn enwedig os ydych yn teimlo'n bryderus neu dan straen. Gall eich meddyg fod yn un llwybr sy'n arwain at wasanaethau cymdeithasol, cwnsela a sefydliadau a allai helpu.

Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad, gofynnwch am amser ychwanegol gyda'ch meddyg er mwyn trafod eich sefyllfa. Gwnewch restr o gwestiynau ymlaen llaw - bydd hyn yn fodd i'r meddyg ddeall eich pryderon am eich iechyd eich hun - a phryderon y sawl yr ydych yn gofalu amdano.

Os ydych yn cael anhawster cyrraedd y feddygfa oherwydd ei bod yn anodd gadael y sawl yr ydych yn gofalu amdano ar ei ben ei hun, gofynnwch i'ch meddyg a fyddai modd iddo ddod i'ch cartref.

Gall eich meddyg a'ch fferyllydd hyd yn oed drefnu eich bod yn derbyn presgripsiynau ac ati gartref.

Eich cyngor lleol

Mae eich cyngor lleol yn gyfrifol am helpu gofalwyr drwy ddarparu gwasanaethau cefnogi. Gall hyn olygu ffordd o'ch helpu i ymdopi gartref, fel cymorth cartref, neu ffyrdd o'ch galluogi i gymryd seibiant o'ch rôl ofalu, fel canolfannau dydd.

Er mwyn cael gwybod a oes gennych hawl i gael y gwasanaethau a pha gefnogaeth fyddai fwyaf o fudd i chi, bydd angen i'r cyngor gynnal asesiad gofalwr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU