Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gofalwr - yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Gall hawlio Lwfans Gofalwr effeithio ar lefel rhai budd-daliadau a hawliadau eraill rydych chi, neu'r person rydych chi'n gofalu amdano, yn eu derbyn.

Eich budd-daliadau

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau eraill gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth ar yr un gyfradd â'r Lwfans Gofalwr neu ar gyfradd uwch, efallai na fyddwch yn derbyn Lwfans Gofalwr ond yn derbyn yr hyn a elwir yn 'hawl waelodol'.

Rhoddir ystyriaeth lawn i'r Lwfans Gofalwr sy'n cael ei dalu wrth gyfrifo budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm a Chredyd Pensiwn. Fodd bynnag, os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr neu os oes gennych hawl waelodol iddo, byddwch yn gymwys i dderbyn y premiwm gofalwr gyda Chymhorthdal Incwm a'r Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Y gyfradd ar hyn o bryd yw £27.15 yr wythnos.

Os byddwch yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor, bydd y cyngor lleol yn cynnwys swm ar gyfer y premiwm gofalwr pan fyddant yn cyfrifo faint o Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor y gallwch ei gael. Gall hawlio Lwfans Gofalwr effeithio hefyd ar faint o Gredyd Pensiwn yr ydych yn ei dderbyn. Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, mae'r swm a ddefnyddir i gyfrifo faint yw eich hawliad yn cael ei gynyddu.

Lwfans Gofalwr a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ar gyfer pob wythnos y byddwch yn derbyn Lwfans Gofalwr, fel arfer bydd cyfraniad Yswiriant Gwladol (YG) yn cael ei ychwanegu at eich cofnod YG hyd at flwyddyn dreth eich pen-blwydd yn 60 (oni bai eich bod yn ferch sydd wedi dewis cyfraniadau YG ar gyfradd is).

Fel arfer hefyd byddwch yn cael eich credydu gyda chyfraniad YG am unrhyw wythnos pan fydd gennych hawl i gael Lwfans Gofalwr ond nad yw'n cael ei dalu am eich bod hefyd yn cael Budd-dal Gwraig Weddw neu Fudd-daliadau Profedigaeth ar yr un gyfradd wythnosol neu ar gyfradd uwch.

Mae’n bosib bydd y cyfraniadau YG hyn yn eich helpu i fod yn gymwys i gael y gyfradd sylfaenol o rhai budd-daliadau neu hawliadau eraill yn y dyfodol.

Ail Bensiwn y Wladwriaeth

O fis Ebrill 2002, ar gyfer pob blwyddyn dreth gyflawn y byddwn yn talu Lwfans Gofalwr i chi, byddwch yn cronni Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig, a elwir weithiau'n bensiwn ychwanegol (oni bai eich bod yn ferch sydd wedi dewis talu cyfraniadau YG ar gyfradd is). Os oes gennych 'hawl waelodol' i Lwfans Gofalwr, byddwch yn dal i gronni Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Telir y pensiwn ychwanegol gyda phensiwn sylfaenol y wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.

Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Nid budd-dal mo'r Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ond cynllun sy'n helpu i ddiogelu eich Pensiwn gan y Wladwriaeth.

Budd-daliadau'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Os ydych chi'n hawlio Lwfans Gofalwr, gallai effeithio ar faint o fudd-dal y mae'r sawl yr ydych yn gofalu amdano ei dderbyn.

Gallai'r sawl yr ydych yn gofalu amdano golli'r premiwm anabledd difrifol yn eu budd-dal yn gysylltiedig ag incwm neu'r ychwanegiad am anabledd difrifol yn eu Credyd Pensiwn. Fodd bynnag, os mai dim ond hawl waelodol sydd gennych i Lwfans Gofalwr ac nad ydych yn ei dderbyn, ni fydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.

Rhoi gwybod i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano eich bod yn gwneud hawliad

Oherwydd y gall eich hawliad am Lwfans Gofalwr effeithio ar fudd-daliadau'r sawl yr ydych yn gofalu amdano, gofynnir iddynt gadarnhau drwy lythyr eu bod yn gwybod eich bod yn hawlio Lwfans Gofalwr a'ch bod yn gofalu amdanynt am o leiaf 35 awr yr wythnos. Mae hyn ar y ffurflen hawlio.

Os ydych yn briod, os oes gennych bartner sifil neu blant

Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr, efallai y cewch fwy o arian ar gyfer eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu oedolyn arall sy'n byw gyda chi ac sy'n gofalu am blentyn neu blant yr ydych yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer.

Os ydych yn derbyn Credyd Treth Plant bydd unrhyw Lwfans Gofalwr a dderbynnir yn cael ei ystyried yn incwm.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU