Mae sawl ffordd o wneud cais am Lwfans Gofalwr: fe allwch chi wneud cais ar-lein, gallwch ofyn am ffurflen gais drwy'r post neu fe allwch chi lwytho ffurflen oddi ar y dudalen hon.
I wneud cais ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Bydd y dudalen gyntaf yn sicrhau bod y feddalwedd iawn gennych a dangos beth i'w wneud os nad ydy'r feddalwedd honno gennych. Byddwch wedyn yn gallu llenwi ffurflen electronig i hawlio Lwfans Gofalwr.
Gall yr Uned Lwfans Gofalwr anfon ffurflen hawlio atoch. Rhowch wybod iddynt os oes angen ffurflen arnoch yn Gymraeg, mewn Braille, mewn print bras neu ar dâp sain.
Eu cyfeiriad yw Carer's Allowance Unit, Palatine House, Lancaster Road, Preston, PR1 1HB
Rhif ffôn: 01253 856 123
Ffôn testun: 01772 562 202
Gallwch ffonio'r rhifau hyn rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf holwch am y gwasanaeth cyfieithu.
Ffacs: 01772 899 354
Gallwch ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau i gael ffurflen hawlio a chyngor am sut i'w llenwi.
Rhif ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55.
Gallwch ffonio'r rhifau hyn rhwng 8.30am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 1pm ar ddydd Sadwrn.
Gallwch gysylltu ag un o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith neu'r Ganolfan Bensiynau. Gallwch ddod o hyd i’r rhif ffôn neu'r cyfeiriad yn y llyfr ffôn.
Gallwch lwytho nodiadau cymorth a ffurflen hawlio i'w hargraffu a'i llenwi oddi ar y we.
Os byddwch yn llwytho'r ffurflen oddi ar y we, dylech ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted â phosibl gan y bydd dyddiad derbyn eich ffurflen yn effeithio ar y dyddiad pan fyddwch yn dechrau derbyn y Lwfans Gofalwr.
Os ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth, beth bynnag y swm, gallwch wneud hawliad am Lwfans Gofalwr gan ddefnyddio'r ffurflen hawlio fer. Mae'n cynnwys nodiadau cymorth.
Os ydych eisiau hawlio arian ychwanegol ar gyfer oedolyn dibynnol, dylech hefyd lwytho'r ffurflen hawlio ‘Lwfans Gofalwr - Arian ychwanegol ar gyfer oedolyn dibynnol’, ei hargraffu a'i llenwi.
Hawliwch yn awr - os ydych yn gofalu am rywun sydd naill ai'n derbyn y canlynol neu sydd wedi cael yr hawl i'w derbyn yn ddiweddar:
Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i'r Anabl (ar gyfradd ganolig neu gyfradd uchaf yr elfen ofal) neu Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd uchaf arferol neu uwch na hynny ar ben y Budd-dâl Anabledd Anafiadau Diwydiannol, neu ar gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) neu uwch na hynny yn ychwanegol at Bensiwn Anabledd Rhyfel.
Peidiwch ag oedi neu gallech golli budd-dal.
Hawliwch yn nes ymlaen - os ydych yn gofalu am rywun nad yw wedi hawlio un o'r budd-daliadau a enwir uchod eto, nes sydd wedi hawlio ond yn aros am y penderfyniad.
Dylai'r person y byddwch yn gofalu amdano ystyried gwneud cais am un o'r budd-daliadau hyn yn syth os nad yw wedi hawlio'n barod. Os cânt un o'r budd-daliadau, dylech chithau hawlio Lwfans Gofalwr yn syth (o fewn 3 mis o gael y penderfyniad ynghylch y Lwfans Gweini, y Lwfans Gweini Cyson neu'r Lwfans Byw i'r Anabl, os yw hynny'n bosib).
Peidiwch ag oedi neu gallech golli budd-dal.
Gwneud cais am fudd-daliadau a hawliadau eraill yr un pryd
Gallai cael Lwfans Gofalwr roi'r hawl i chi gael Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor, felly mae'n bosib y byddwch yn dymuno gwneud cais am rai o'r budd-daliadau neu hawliadau hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn hawlio'ch Lwfans Gofalwr.