Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gofalwyr - newid yn eich amgylchiadau chi neu'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Mae'n bwysig rhoi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau chi, y sawl yr ydych yn gofalu amdano neu oedolyn dibynnol. Gall hyn effeithio ar eich hawl i dderbyn Lwfans Gofalwr neu'r cyfanswm y gallech ei gael.

Er enghraifft, bydd angen i chi roi gwybod am y canlynol:

  • newidiadau i incwm neu waith i chi neu oedolyn dibynnol
  • newidiadau i'r budd-daliadau yr ydych chi, y sawl yr ydych yn gofalu amdano neu oedolyn dibynnol yn eu cael, neu fudd-daliadau newydd
  • os ewch chi neu oedolyn dibynnol i addysg amser llawn (21 awr neu fwy yr wythnos o astudio dan oruchwyliaeth)
  • newid yn eich cyfeiriad chi, oedolyn dibynnol neu'r sawl yr ydych yn gofalu amdano
  • seibiant o ofalu - megis gwyliau neu gyfnod mewn ysbyty

Seibiant dros-dro o'r gwaith gofalu

Gallwch barhau i gael Lwfans Gofalwyr os byddwch yn cymryd seibiant dros-dro o'r gwaith gofalu, gweler isod:

  • os byddwch yn derbyn triniaeth feddygol neu driniaeth arall fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg, bydd eich Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu am hyd at 12 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos, yn dibynnu a ydych wedi cael seibiant o'r gwaith gofalu am resymau eraill hefyd
  • os bydd y person yr ydych yn gofalu amdano yn derbyn triniaeth feddygol neu driniaeth arall fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg, gellir talu eich Lwfans Gofalwr am hyd at 12 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos, yn dibynnu a ydych chi wedi cael seibiant o'r gwaith gofalu am resymau eraill hefyd - gyhyd â bod y person yn parhau i dderbyn elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl (ar y gyfradd ganol neu uchaf) neu'r Lwfans Gweini
  • os byddwch yn mynd ar wyliau, neu os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n cael gwyliau neu'n mynd i aros mewn cartref gofal, gellir talu eich Lwfans Gofalwr am hyd at 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos

Y seibiant hiraf y gallwch ei gymryd heb i hynny effeithio ar eich Lwfans Gofalwr yw 12 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos. Gallwch gael rhagor o gyngor ynghylch y rheolau gan yr Uned Lwfans Gofalwr. Mae'r manylion ar gael ar y dudalen 'Sut i hawlio'.

Rhoi gwybod os bydd amgylchiadau'n newid

Gallwch roi gwybod yn syth i'r Uned Lwfans Gofalwr - mae'r manylion ar y dudalen 'Sut i hawlio'. Gallwch roi gwybod am newidiadau ar-lein hefyd gan ddefnyddio e-wasanaeth y Lwfans Gofalwr. Mae'r ffurflen ar-lein yn rhestru'r mathau o newidiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt.

I roi gwybod ar-lein, ewch i e-wasanaeth y Lwfans Gofalwr a dewis 'Dywedwch wrthym am newid mewn amgylchiadau'. Cyn defnyddio'r gwasanaeth gofynnir i chi wneud yn siwr fod y feddalwedd iawn gennych ac fe ddangosir i chi beth i'w wneud os nad ydy honno gennych. Byddwch wedyn yn gallu llenwi ffurflen electronig syml i ddweud am newid mewn amgylchiadau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU