Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliadau uniongyrchol i blant anabl

Gellir gwneud taliadau uniongyrchol, sy'n gadael i chi drefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun yn hytrach na'u derbyn yn uniongyrchol gan eich cyngor lleol, i rieni a gofalwyr 16 oed a hŷn. Mae hyn yn cynnwys pobl gyda chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl.

Os oes gennych gyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl

Ar ôl cael asesiad, gellir defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau sy'n cynnig symbyliad, profiadau newydd ac annibyniaeth i'ch plentyn. Ymhlith y rhain, mae:

  • seibiannau byr
  • lle mewn meithrinfa sy'n darparu cefnogaeth arbenigol i'ch plentyn
  • cymorth i fynychu gweithgarwch, er enghraifft, clwb ieuenctid
  • gofal personol

Cyflogi rhywun i roi cefnogaeth i'ch plentyn

Os cytunir ar hynny ar ôl asesiad, gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi rhywun i roi cefnogaeth i'ch plentyn.

Gall cynghorau lleol ddarparu arweiniad ar arfer diogel gyda golwg ar gyflogi gweithwyr gofal i weithio gyda'ch plentyn. Gallwch ofyn i'ch cyngor eich helpu i wneud nifer o archwiliadau, gan gynnwys archwiliad gan yr heddlu i sicrhau diogelwch eich plentyn - ond gennych chi fel y cyflogwr y mae'r cyfrifoldeb.

Gwasanaethau gofal plant ac amser gwyliau

Fel rhiant, neu rywun gyda chyfrifoldeb rhiant, dylech gael cefnogaeth i barhau i weithio, neu ddychwelyd i weithio, os mai hynny ydy'ch dymuniad.

Os yw eich asesiad yn dangos bod angen help arnoch gan y gwasanaethau cymdeithasol, gall taliadau uniongyrchol eich helpu i gael y math priodol o ddarpariaeth ar ôl ysgol neu yn ystod y gwyliau i ddiwallu anghenion penodol eich plentyn.

Gwybodaeth bellach ar wefan 'Every child matters'

Mae’r wefan ‘Every Child Matters’ yn cynnwys arweiniad i fudd-daliadau uniongyrchol ar gyfer plant anabl ac hefyd rhestr o atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml.

Ymholiadau Penodol

Os oes gennych gwestiwn ar fyrder am eich sefyllfa eich hun, eich cyngor lleol yw'r lle cyntaf i holi; mae pob cyngor yn gweithredu'r broses taliadau uniongyrchol yn ei ffordd ei hun. Gallant hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU