Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwy sy'n talu am ofal?

Fel gofalwr, efallai y bydd rhaid i chi dalu am rai o'r gwasanaethau a dderbyniwch. Ni chodir tâl arnoch am y gwasanaethau a ddarperir i'r sawl y byddwch yn gofalu amdano.

Mae'n bwysig cofio na fydd swm y cymorth y gallech ei gael er mwyn eich helpu yn eich rôl fel gofalwr yn dibynnu ar y swm y gallwch chi ei fforddio.

Edrychir ar eich anghenion mewn asesiad anghenion ac yna bydd gwasanaethau cymdeithasol yn gweld faint y gallwch chi ei fforddio o edrych ar yr asesiad ariannol a wneir ar yr un pryd â'r asesiad anghenion, neu'n fuan wedi hynny. Fodd bynnag, ychydig iawn o gynghorau fydd yn gwneud y ddau asesiad ar yr un pryd.

Gallwch ddewis peidio â chael asesiad ariannol ond golyga hynny y byddai'n rhaid i chi dalu'n llawn am yr holl ofal.

Asesiad ariannol

Bydd eich cyngor lleol yn gwneud asesiad ariannol i ganfod faint allwch chi fforddio ei dalu tuag at ffioedd gofal yn y gymuned. Bydd hyn yn seiliedig ar eich incwm a'ch cyfalaf. Eich incwm yw'r holl arian yr ydych yn ei dderbyn bob wythnos. Dyma enghreifftiau o incwm:

  • llog ar gynilion
  • pensiwn preifat
  • pensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau, a allai gynnwys Lwfans Gofalwyr yn unol â phenderfyniad y cyngor
  • cyflog os ydych yn gweithio

Gall eich cyfalaf gynnwys tir ac adeiladau (ac eithrio gwerth y cartref lle'r ydych yn byw) a chynilion.

Dylech wneud yn siur eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt oherwydd mae'n debygol y bydd eich cyfraniad yn cael ei benderfynu ar y sail eich bod yn eu cael. Am ragor o wybodaeth siaradwch â'r gweithiwr cymdeithasol sy'n gweithio gyda chi neu gyda'r person a gynhaliodd yr asesiad anghenion/ariannol.

Am ba bethau y gellid codi tâl arnaf?

Mae nifer o wasanaethau y gallech orfod talu amdanynt, gan gynnwys:

  • cymorth cartref
  • gwasanaethau gwarchod
  • prydau bwyd

Beth fydda i'n eu cael heb orfod talu amdanynt?

All neb ofyn i chi dalu am y canlynol:

  • cymorth a chyngor, er enghraifft, llenwi ffurflenni (gan gynnwys Lwfans Byw i'r Anabl),
  • cyngor a chyfarpar gan therapyddion galwedigaethol y cyngor,
  • trafnidiaeth er mwyn mynd i ganolfannau dydd

Polisi Codi Tâl Tecach

Mae'r pethau y codir tâl arnoch amdanynt neu'r pethau a gewch yn ddi-dâl wedi eu seilio ar Bolisi Codi Tâl Tecach y llywodraeth. Golyga hyn na ellir codi tâl arnoch am wasanaethau os byddai hynny'n eich gadael gyda llai na'r lefelau sylfaenol o Gymhorthdal Incwm neu Gredyd Gwarant y Credyd Pensiwn, yn ogystal â 25 y cant.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'ch gweithiwr cymdeithasol, eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu dilynwch y ddolen isod er mwyn cael dogfen gan Yr Adran Iechyd.

Sut mae talu am ofal?

Mae gan rai adrannau gwasanaethau cymdeithasol gynllun 'talu wrth ddefnyddio'. Mae hyn yn gweithio orau pan fydd eich anghenion yn newid o fis i fis. Anfonir cerdyn atoch, a gallwch roi arian arno yn swyddfa'r post. Byddwch yn cael y cerdyn a llyfryn yn dangos sut i'w ddefnyddio.

Bydd adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn caniatáu i chi dalu bob mis gyda debyd uniongyrchol. Defnyddir hyn pan fydd yr un maint o ofal yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. Os bydd eich amgylchiadau neu'ch anghenion yn newid, cysylltwch â'ch gwasanaethau cymdeithasol ac fe fyddant yn addasu'r cyfanswm y byddwch yn ei dalu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU