Bydd yr erthygl hon yn eich helpu i gael gwybod am y gwahanol fudd-daliadau, credydau treth a chymorth ariannol arall y gallech eu derbyn fel gofalwr. Canllaw cyffredinol yn unig ydy hwn.
Drwy gydol adran 'gofalu am rywun' Directgov, mae'r gair 'gofalwr' yn cyfeirio at rywun sy'n gofalu am ffrind, perthynas neu gymydog y mae angen cefnogaeth arnynt oherwydd eu salwch, eu hoedran neu eu hanabledd.
Efallai y gallech hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun.
Os ydy'ch cyngor lleol wedi'ch asesu ac yn dweud bod angen gwasanaethau cymorth arnoch er mwyn eich helpu i ofalu am rywun, efallai y byddwch yn dymuno dewis taliadau uniongyrchol. Gyda'r rhain, cewch brynu a threfnu eich cymorth eich hun yn hytrach na'i dderbyn yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Efallai y byddwch yn poeni am warchod eich pensiwn os nad ydych yn gweithio am eich bod yn gofalu am rywun. Am wybodaeth fanwl am Bensiwn y Wladwriaeth, Ail Bensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn a mwy, gweler 'Gofalu a'ch pensiwn'.
Os ydych chi rhwng 16 a 60 oed, ar incwm isel, yn ddi-waith, neu’n gweithio am lai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, efallai y gallech hawlio Cymhorthdal Incwm. Os oes gennych chi hawl i gael Lwfans Gofalwr hefyd, efallai y gallech gael swm ychwanegol yn eich Cymhorthdal Incwm. Gelwir hwn yn 'bremiwm gofalwr'.
Os ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn a bod angen cymorth ariannol arnoch chi i liniaru pwysau eithriadol ar eich teulu, efallai y gallech gael Grant Gofal yn y Gymuned. Mae'n bosib y byddwch yn gymwys os oes gan rywun yn eich teulu salwch tymor hir neu os ydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl.
Lwfans prawf modd ar gyfer rhieni a gofalwyr plant neu bobl ifanc sy'n dal mewn addysg amser llawn ydy'r Credyd Treth Plant. Efallai y cewch swm ychwanegol os ydych yn gofalu am blentyn anabl.
Dyma un taliad i helpu tuag at gostau babi newydd os ydych ar incwm isel ac yn derbyn mathau penodol o gymorth ariannol gan gynnwys Cymhorthdal Incwm a Chredyd Treth Plant gyda swm ychwanegol ar gyfer plentyn anabl.
Os ydych chi'n rhiant unigol, efallai y gallech hawlio Cynhaliaeth Plant gan riant arall eich plentyn drwy'r Asiantaeth Cynnal Plant. Efallai y cewch swm ychwanegol os oes gennych chi gostau ychwanegol am fod eich plentyn yn anabl.
Os ydych yn gyfrifol am blentyn o dan 19 oed, neu mewn amgylchiadau penodol o dan 20 oed, cewch y premiwm hwn os:
Os yw'r dibynnydd yn cael cyfradd uchaf elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl, efallai y gallwch gael y premiwm plentyn anabl.
Ni chewch unrhyw un o'r ddau bremiwm os oes gan y plentyn dibynnol gyfalaf o fwy na £3,000.
Os ydych ar incwm isel a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich rhent, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu hawlio Budd-dal Tai. Efallai y cewch arian ychwanegol os ydych chi'n gofalu am blentyn neu oedolyn anabl.
Os ydych ar incwm isel a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich Treth Gyngor, efallai y gallech chi gael Budd-dal Treth Gyngor. Efallai y cewch arian ychwanegol os ydych chi'n gofalu am blentyn neu oedolyn anabl.
Os byddwch chi'n darparu o leiaf 35 awr o ofal yr wythnos i rywun yn eich cartref, efallai y gallech chi gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor. Ni chaiff y person y byddwch yn gofalu amdano fod yn briod, yn bartner nac yn blentyn i chi. Gellir gwneud y gostyngiad hwn ar ben y budd-dal Treth Gyngor. Ceir hefyd gostyngiad arall ar y Dreth Gyngor i bobl anabl.
Mae'r cynllun parcio Bathodyn Glas yn darparu amrywiaeth o fuddiannau parcio i bobl anabl. Os ydych chi'n gofalu am rywun anabl ac nad ydynt yn gyrru, gallant eich enwi chi fel eu gyrrwr er mwyn i chi allu defnyddio'u Bathodyn Glas wrth eu gyrru nhw o gwmpas.
Mae'r Cynllun Motability yn helpu pobl anabl i brynu neu brydlesu car am bris fforddiadwy. Os ydych chi'n gofalu am rywun anabl ac nad ydynt yn gyrru, byddant yn dal i allu gwneud cais i brynu neu brydlesu car trwy'r Cynllun Motability gyda chi fel eu gyrrwr.
Gallwch hefyd wneud cais am gar ar ran plentyn tair oed neu hŷn sydd â'r hawl i gael elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.
Nid oes rhaid i rai pobl anabl dalu treth cerbyd ar gyfer disg dreth. Os ydych chi'n gofalu am rywun anabl ac nad ydynt yn gyrru, gallant eich enwebu chi i yrru'r car ar eu cyfer ac ni fydd rhaid i chi dalu treth car ar gyfer y car.
Os ydych chi'n gofalu am oedolyn sydd â Cherdyn Trên i Bobl Anabl, gallwch chithau dderbyn yr un gostyngiad â nhw pan fyddwch yn teithio gyda nhw.
Os oes gennych blentyn anabl sydd â Cherdyn Trên i Bobl Anabl, byddan nhw'n teithio am gost safonol plant, ond byddwch chi'n derbyn gostyngiad o draean oddi ar gost safonol oedolion pan fyddwch yn teithio gyda nhw.
Mae llawer o fannau diddorol, gan gynnwys amgueddfeydd, lleoliadau chwaraeon, eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a mannau English Heritage yn cynnig gostyngiad neu docyn am ddim i gydymaith person anabl.
Cerdyn cenedlaethol ar gyfer pobl anabl yw Cerdyn Cymdeithas yr Arddangoswyr Sinema, sy'n cynnig un tocyn am ddim i'r deilydd ar gyfer rhywun sy'n dod gyda nhw i'r sinema. Mae'r cerdyn yn ddilys am dair blynedd.
Cael gwybod am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y Lwfans Byw i’r Anabl a thaliadau uniongyrchol, yn adran 'pobl anabl' Directgov.