Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gofalwr

Budd-dal a delir i bobl sy'n rhoi gofal anffurfiol i bobl ag anabledd difrifol yw'r Lwfans Gofalwr. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i'r person y byddwch yn gofalu amdano, na byw gydag ef neu hi.

Pwy gaiff dderbyn Lwfans Gofalwr?

Cewch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am yr un perthynas, ffrind neu gymydog. Dylent fod yn derbyn, er enghraifft, y Lwfans Gweini neu'r Lwfans Byw i'r Anabl (ar y gyfradd ganol neu uchaf ar gyfer gofal personol), neu Lwfans Gweini Cyson (at neu’n uwch na’r gyfradd uchaf arferol â Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, neu gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) ynghyd â Phensiwn Anabledd Rhyfel).

Pwy na chaiff dderbyn Lwfans Gofalwr?

Chewch chi ddim hawlio'r Lwfans Gofalwr os ydych chi mewn addysg amser llawn sy'n golygu 21 awr yr wythnos neu fwy o astudio dan oruchwyliaeth neu os ydych chi'n ennill mwy nag £95 yr wythnos ar ôl gwneud didyniadau penodol (fel Treth Incwm).

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Y gyfradd wythnosol yw £50.55. Tynnir gwerth rhai o'ch budd-daliadau eraill, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, o'r swm hwn. Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol eraill sy'n £50.55 neu fwy yr wythnos, ni chewch dderbyn Lwfans Gofalwr hefyd.

Mae’n bosib bydd angen i chi dalu treth ar y swm yr ydych yn derbyn.

Mae'n bosibl y gallwch chi gael swm ychwanegol ar gyfer eich g ŵ r, eich gwraig, eich partner sifil neu rywun arall sy'n byw gyda chi sy'n gofalu am unrhyw blant sy'n ddibynnol arnoch.

Sut mae'n cael ei dalu

Mae'r Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, neu unrhyw ddarparwr cyfrif arall.

Efallai gallwch gael rhywun arall i gasglu'ch Lwfans Gofalwr os ydych eisiau. Cysylltwch â'ch banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrif arall i gael cymorth i’ch hyn.

Os ydych am ragor o wybodaeth ynghylch sut allwch gael eich talu mewn modd arall, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr - mae manylion ar gael yn yr adran 'Sut i hawlio'.

Yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Gall hawlio Lwfans Gofalwr effeithio ar unrhyw fudd-daliadau, lwfansau, pensiynau a hawliadau eraill rydych chi, neu’r person yr ydych yn gofalu amdano/i, yn eu derbyn.

Sut i hawlio

Fe allwch chi ofyn am ffurflen hawlio dros y ffôn, drwy gysylltu â’ch swyddfa budd-daliadau leol neu fe allwch chi lwytho'r ffurflen oddi ar y wefan hon. Neu fe gewch wneud cais ar-lein.

Newidiadau yn eich amgylchiadau chi - neu'r person yr ydych yn gofalu amdano

Os bydd eich amgylchiadau'n newid - neu amgylchiadau'r sawl rydych chi'n gofalu amdano/i - fe all hynny effeithio ar eich hawl i gael y Lwfans Gofalwr neu effeithio ar y swm a gewch chi. Er enghraifft, os bydd eich incwm neu'ch amgylchiadau gwaith yn newid, os byddwch chi'n mynd i fyd addysg amser llawn neu'n cymryd hoe o'ch gwaith gofalu.

Cwyno am y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr

Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae’n darparu cymorth ariannol i bobl anabl a gofalwyr. Mae’n delio gyda hawliadau am Lwfans Gofalwr yn ogystal ag amryw fudd-daliadau anabledd.

Os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Anabledd a Phensiynau, mae nifer of o bethau allwch wneud i gwyno.

Budd-daliadau anabledd - ffilmiau gydag Iaith Arwyddion Prydain ac is-deitlau

Mae'r ffilm fer ynghylch Lwfans Gofalwr - sydd wedi'i chyflwyno mewn Iaith Arwyddion Prydain, wedi'i hadrodd ac is-deitlau - yn gallu cael ei llwytho o Directgov.   Gallwch hefyd wylio tair ffilm ynghylch budd-daliadau anabledd, yn cynnwys Lwfans Byw i'r Anabl.  Mae'r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy'r post.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU