Gall gwasanaethu fel ynad roi manteision amhrisiadwy i chi a'ch cymuned. Byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig i gynnal y gyfraith, ac yn ehangu ac yn gwella'ch dealltwriaeth o'ch cymuned leol.
Dyma rai o'r nifer o fanteision personol y gallwch eu hennill wrth fod yn ynad:
a
Wrth fod yn ynad, gallwch hefyd ddod a manteision i'ch cymuned:
a
Alika Gupta - Arweinydd Rhaglen
"Petawn i fy hun yn ddiffynnydd, hoffwn wybod fy mod yn cael fy rhoi ar brawf ac yn cael fy nedfrydu gan rywun â thipyn o synnwyr cyffredin, a rhywun a allai ddeall fy sefyllfa. Rwy'n meddwl fy mod wedi bod yn lwcus oherwydd i mi gael y fraint o gael cynrychioli'r person cyffredin yn y system gyfreithiol."
Grantley Yearwood - Technegydd Awyrennau
"Roedden nhw eisiau ychydig mwy o gyfraniad diwylliannol wrth ystyried pobl ifanc o gefndiroedd ethnig, dwi'n meddwl. Byddaf yn cael boddhad wrth wasanaethu yn y gymuned leol ac wrth feirniadu a sicrhau bod pobl yn y gymuned yn cael eu trin yn deg am y ffordd y maent yn byw."
Geoff Pinney - Rheolwr Labordy
"Mae wedi dysgu llawer iawn i mi. Byddaf yn cael ystyried pobl a digwyddiadau amrywiol na fyddaf yn dod ar eu traws fel arfer. Bydd gan bawb sy'n dod i'r llys broblem wahanol, ac mae'n rhaid i chi gadw llygad ar yr agweddau dynol sydd wrth wraidd yr ymddygiad troseddol."
Yusuf Patel - Swyddog Gweinyddol
"Gall fod yn dipyn o her, ond ceir boddhad hefyd. Mae dipyn o synnwyr cyffredin, sgiliau cymryd nodiadau da a chof go lew yn rhinweddau defnyddiol hefyd. Gall unrhyw berson cymwys fod yn ynad."
Jenny Kerr - Trefnydd Cynadleddau Hunan-gyflogedig
"Erbyn hyn rwy'n eistedd ar y fainc ieuenctid yn ogystal â'r fainc oedolion, ac yn cael budd anhygoel o wneud gwaith ieuenctid. Rydw i wir yn teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth. Fel ynad, rydych yn cymysgu â phobl sy'n meddwl yr un fath â chi, does dim angen cefndir cyfreithiol arnoch - dim ond llawer o synnwyr cyffredin."
Manjit Singh Buttar - Rheolwr ar Orsafoedd
"Roedd dod yn ynad yn ffordd i mi wneud mwy i gynrychioli'r gymuned Sikh ac i roi rhywbeth yn ôl i'r genedl gyfan. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn - bob blwyddyn caf 18 diwrnod llawn i eistedd yn y llys, ac mae fy rheolwr yn hyblyg iawn. Byddaf yn rheoli pobl yn y gwaith, ac rwyf hefyd yn fentor yn y gwaith ac ar gyfer ynadon eraill - felly mae'r ddwy swyddogaeth yn mynd law yn llaw â'i gilydd."
Diana Chitty - Twrnai sy'n bartner yn y Cwmni
"Rwy'n fam ac yn gweithio, felly rwy'n gorfod meddwl am fy nheulu, fy swydd a'r ynadaeth - rwy'n gorfod jyglo fy amserlen o gwmpas braidd, ond mae'r uwch bartneriaid yn sylweddoli bod y gwaith rwy'n ei wneud fel ynad yn werth chweil, cyn belled â fy mod yn cwblhau fy ngwaith fy hun. Rwyf hefyd yn mwynhau gwasanaethu'n fawr - rwy'n cael llawer allan ohono, mae'n ddiddorol, ac rwy'n teimlo ei fod yn cyfri. Dyma'r peth pwysicaf yr wyf yn ei wneud ar ôl edrych ar ôl fy mhlant."