Cyn gwneud cais i fod yn ynad, mae nifer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried, gan gynnwys eich rhinweddau personol, eich swydd a'ch iechyd.
Does dim angen i chi gael cymwysterau ffurfiol na hyfforddiant cyfreithiol i fod yn ynad.
Fodd bynnag, bydd angen i chi allu dangos chwech o rinweddau personol allweddol, sef:
Gan fod angen cadw hyder y cyhoedd yn natur ddiduedd y farnwriaeth, ni chaiff gweithwyr mewn nifer fechan o swyddi (er enghraifft, yr heddlu) fod yn ynadon.
Mae'n rhaid i ynadon ennyn hyder y cyhoedd, rhaid iddynt fod yn ddidwyll a rhaid iddynt ennill parch ac ymddiriedaeth pobl eraill. Golyga hyn, er enghraifft, ei bod yn annhebygol y cewch eich penodi os ydych yn fethdalwr nas rhyddhawyd.
Gallai troseddau moduro neu droseddu mynych olygu na chewch fod yn ynad.
Mae'r ynadaeth yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl. Fodd bynnag, os byddai'ch iechyd yn eich atal rhag gwneud unrhyw un o'r dyletswyddau amrywiol y disgwylir i ynadon eu cyflawni, efallai na fyddwch yn gymwys.
Mae yna ychydig o faterion pwysig i'w hystyried cyn gwneud cais.
Yn gyntaf, pryd allwch chi fod ar gael. Mae'n rhaid i chi fod yn bendant eich bod yn gallu ymrwymo i fod ar gael am yr amser sy'n ofynnol. Bydd angen i chi hefyd fod ar gael ar gyfer hyfforddiant; bydd hyn yn gyfystyr â 18 awr ac ychydig o gyfarfodydd ar y dechrau. Cynhelir hyfforddiant a chyfarfodydd oddi allan i oriau gwaith fel arfer.
Hefyd, allwch chi gael amser i ffwrdd o'r gwaith? Os ydych chi'n gyflogedig, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'ch cyflogwr roi amser rhesymol i ffwrdd i chi ar gyfer eich dyletswyddau fel ynad. Bydd angen i chi a'ch cyflogwr gytuno ar sut y byddwch yn mynd ati i reoli unrhyw amser ychwanegol y bydd angen i chi ei gymryd o'r gwaith.
Yn olaf, ym mha lys y gwnewch chi weithio? Bydd angen i chi benderfynu pa lys yr ydych am wneud cais i eistedd ynddo. Ceir mwy na 360 o lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr. Cewch ddewis llys gerllaw eich cartref neu'ch gweithle. Gellir gweld rhestr o'r holl lysoedd ynadon yn eich llys lleol, neu gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i chwilio am Lys yn yr ardal briodol.
Caiff ynadon eu recriwtio gan Bwyllgorau Cynghori lleol. Bydd pobl yn cael eu recriwtio ar adegau gwahanol, gan amrywio o ardal i ardal, felly mae'n bwysig i chi holi beth sy'n digwydd yn eich ardal chi. Gallwch ffonio'ch Pwyllgor Cynghori lleol i gael gwybod pryd y byddant yn recriwtio ac i drafod unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych.
Bydd angen i chi ymweld â llys ynadon i weld ynadon wrth eu gwaith cyn y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydych am wneud cais ai peidio. Bydd angen i chi ymweld â llys ynadon o leiaf unwaith (ond ddwy neu dair gwaith os yw hynny'n bosib), yn ystod sesiwn cyffredinol, yn y 12 mis cyn i chi wneud cais. Dylech fynd ar ymweliad gyda'r bwriad o arsylwi ar y drefn er mwyn ystyried a ydych am wneud cais ai peidio. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi siarad am eich ymweliadau. Ceir mwy o wybodaeth yn y nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer llenwi'r ffurflen gais - ceir dolen atynt isod. Defnyddiwch y ddolen uchod i ddod o hyd i lys y byddai'n gyfleus i chi ymweld ag ef.
Ar ôl i chi gwblhau'r camau hyn byddwch yn barod i wneud cais.
Os hoffech ragor o wybodaeth cyn gwneud cais, darllenwch lyfryn gwybodaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder – ceir dolen ati isod. Mae'n sôn am bethau fel eich swyddogaeth, amodau'r gwasanaeth, eich llythyr cyflwyno, hyfforddiant a'r broses ddewis.
Pan fyddwch yn barod i wneud cais, dyma'r broses i'w dilyn:
Gall y broses ddewis gymryd rhwng chwech a deuddeg mis.
Gallwch wneud cais am ddod yn ynad mewn dwy ffordd:
Mae'r nodiadau cyfarwyddyd yn rhoi cymorth i lenwi'r ffurflen gais. Ceir dolen at y rhain isod.
Gellir hefyd archebu pecynnau ymgeisio o'r cyfeiriadau canlynol:
The Magistrates Appointments Team / Y Tîm Penodi Ynadon
Ministry of Justice / Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Magistrates Recruitment and Appointments Branch
Judicial Services Directorate
Room 2.20
2nd Floor
Selborne House
54 Victoria Street
Llundain SW1E 6QW