Nod cyfiawnder cymunedol yw gwella safon bywyd yn lleol. Mae'n gadael i bobl gymryd rhan yn y gwaith o wella eu hardal, a hynny drwy helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol fel fandaliaeth, gwerthu cyffuriau a graffiti.
Mae cyfiawnder cymunedol hefyd yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yr effeithir arnynt gan ymddygiad drwg a throseddu yn cael dweud eu dweud o ran sut y gellir cael trefn ar bethau yn eu cymuned. Mae hyn yn golygu bod yn rhan o'r ‘broses gyfiawnder’ – fel helpu'r llysoedd a'r heddlu i ganolbwyntio ar y troseddau y mae preswylwyr lleol yn dweud sy'n achosi'r mwyaf o broblemau iddynt.
Gall pobl leol yn y gymuned feddwl am syniadau ynghylch lleihau troseddu – er enghraifft, drwy dynnu sylw at stryd leol sydd efallai'n arbennig o ddrwg o safbwynt gwerthu cyffuriau.
Bydd gwaith y tîm cyfiawnder cymunedol yn cael ei gyflawni gan wahanol ‘asiantaethau’ a fydd yn cydweithio â phreswylwyr lleol, gan gynnwys y canlynol:
a
Er enghraifft, gallai barnwr neu ynad gwrdd ag aelodau o'r gymuned yn rheolaidd er mwyn cael gwybod am effaith troseddu ar eu cymdogaeth. Mae hyn yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o effaith troseddu'n lleol. Gall aelodau'r gymuned awgrymu tasgau y gellid eu cyflawni gan droseddwyr sydd wedi’u dedfrydu i wneud gwaith di-dâl.
Gall cyfiawnder cymunedol hefyd fod yn adnodd ar gyfer pethau nad ydynt yn ymwneud â mynd i'r llys, fel gwasanaethau cwnsela a chynghori.
Gallwch gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd, o fynychu cyfarfodydd cyhoeddus, i fod yn aelod o grŵp cynghori neu fforwm cyfiawnder cymunedol. Gallech wneud y canlynol:
Os hoffech chi gynnig cymorth i dîm cyfiawnder cymunedol, cysylltwch â
community.justice@hmcourts-service.gsi.gov.uk
neu ewch i'r gwefannau a restrir isod dan y teitl 'Cael gwybod mwy am brosiectau cyfredol'
Mae cyfiawnder cymunedol hefyd yn golygu cefnogi'r bobl sy'n creu trwbwl.
Un nod bwysig yw gwneud yn siŵr bod rhywun yn cael cefnogaeth ar ôl iddo fod yn y llys a chael ei ddedfrydu, er mwyn ei helpu i beidio â throseddu eto – efallai drwy gael gweithiwr cefnogi gwirfoddol i helpu â phroblemau cyflogaeth a thai, a materion yn ymwneud â bod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau.
Bydd troseddwyr a ddedfrydir gan y llys yn ‘gwneud iawn’ am y niwed y maent wedi ei achosi – er enghraifft, drwy weithio er budd y gymuned ar brosiect lleol.
Bydd lefel yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn amrywio o ardal i ardal ac mae'n fwyaf cyffredin mewn llefydd lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi eu hallgáu neu'n ei chael yn anodd delio â'r problemau y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu o ddydd i ddydd – er enghraifft, bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol, problem deuluol neu fod mewn dyled.
Mae cynlluniau cyfiawnder cymunedol yn cael eu cynnal yn y llefydd canlynol ar hyn o bryd:
Bydd ardaloedd eraill yn y DU yn cymryd rhan yn y cynllun maes o law.
Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o fanylion am brosiectau cyfiawnder cymunedol unigol.