Mae pob cymdogaeth yn wahanol, ac felly hefyd y problemau sy'n bwysig i drigolion. Mae Timau Plismona Cymdogaeth yn gweithio gydag aelodau o'r gymuned i fynd i'r afael â throseddu lleol, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac unrhyw faterion neu bryderon parhaus.
Ystyr Plismona Cymdogaeth yw'r ffordd y mae'r heddlu lleol yn gweithio gyda phobl leol a phobl eraill i nodi'r materion sy'n gwneud i bobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cymdogaeth deimlo'n anniogel ac i fynd i'r afael â hwy.
Mae'r math hwn o blismona yn cael ei ddarparu gan dimau o swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymuned yr heddlu, yn aml ochr yn ochr â heddlu arbennig, wardeniaid awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr.
Ers 1 Ebrill 2008, mae pob ardal yng Nghymru a Lloegr gyda Thîm Plismona Cymdogaeth. Mae'r tîm yn gweithio fel rhan o'r gymuned er mwyn gwneud y gymdogaeth yn fwy diogel. Mae angen cymorth gan drigolion ar bob tîm er mwyn nodi'r materion sy'n achosi'r pryder mwyaf yn yr ardal ac i fynd i'r afael â hwy yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Diben Timau Plismona Cymdogaeth yw sicrhau bod trigolion yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel lle maent yn byw. Gallai hyn olygu bod y tîm yn trefnu bod graffiti'n cael ei lanhau oddi ar adeiladau lleol, neu fod gweithgareddau'n cael eu trefnu i bobl ifanc yn yr ardal.
Oherwydd bod y timau'n gweithio yn y gymuned yn yr hirdymor, nid ydynt yn gallu ymateb i alwadau brys fel arfer. Os bydd angen rhoi gwybod am drosedd arnoch, â'ch gorsaf heddlu leol y dylech gysylltu o hyd neu, mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei gyflawni yn eich cymdogaeth a sut i gymryd rhan drwy fynd ar wefan Plismona Cymdogaeth. Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i'ch tîm lleol.