Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyllyll a’r gyfraith

Mae troseddau gyda chyllyll, yn enwedig ymysg pobl ifanc, yn y newyddion bron bob dydd. Ar hyn o bryd, mae llawer o reolau gwahanol yn berthnasol i gyllyll ac nid yw hi bob amser yn amlwg beth sy'n gyfreithlon a beth sy'n anghyfreithlon.

Beth sy'n gyfreithlon a beth sy'n anghyfreithlon

y gosb uchaf am gario cyllell yw pedair blynedd yn y carchar a dirwy o £5000
  • Mae'n anghyfreithlon i unrhyw siop werthu cyllell o unrhyw fath (gan gynnwys cyllyll bwyta a chyllyll cegin) i unrhyw un o dan 18 oed
  • yn gyffredinol mae'n drosedd cario cyllell yn gyhoeddus heb reswm digonol neu awdurdod cyfreithlon (er enghraifft, byddai cogydd ar ei ffordd i'w waith yn cario ei gyllyll ei hun yn cyfrif fel rheswm digonol)
  • y gosb uchaf i oedolyn am gario cyllell yw pedair blynedd yn y carchar a dirwy o £5000
  • nid yw cyllyll lle mae'r llafn yn plygu i'r handlen, fel cyllell boced (Swiss Army Knife), yn anghyfreithlon ar yr amod bod y llafn yn llai na thair modfedd (7.62cm)

Arfau bygythiol

Os caiff cyllell ei defnyddio mewn ffordd fygythiol (hyd yn oed cyllell gyfreithlon, fel cyllell boced), caiff ei hystyried yn 'arf bygythiol' yn ôl y gyfraith. Mae hyn hefyd yn wir gyda phethau fel sgriwdreifers - unwaith y cânt eu defnyddio mewn modd bygythiol, cânt eu hystyried yn arfau bygythiol. Mae'n drosedd cario arf bygythiol mewn man cyhoeddus, os nad oes gennych esgus rhesymol. Golyga hyn y gallech gael eich cosbi am gario rhywbeth y gellid ei ystyried yn arf bygythiol, ac yna'i ddefnyddio mewn modd bygythiol. Gellir cael carchar am hyd at bedair blynedd a/neu ddirwy.

Ceir gwaharddiad llwyr ar werthu mathau penodol o gyllyll a elwir yn arfau bygythiol, waeth sut y cânt eu defnyddio, mae'r rhain yn cynnwys:

  • cyllyll fflicio - cyllyll lle mae'r llafn wedi'i guddio y tu mewn i'r handlen ac yn saethu allan pan gaiff botwm ei wasgu; gelwir y rhain hefyd yn 'gyllyll clec' neu'n 'gyllyll awtomatig'
  • cyllyll pili pala - lle mae'r llafn wedi'i guddio y tu mewn i handlen sy'n hollti'n ddwy ran o'i amgylch, fel adenydd; mae'r handlenni'n troi o amgylch y llafn i'w agor neu ei gau
  • cyllyll wedi'u cuddio - lle mae'r llafn wedi'i guddio y tu mewn i rywbeth fel bwcl belt neu ffôn symudol ffug

Pwerau 'Atal a Chwilio' yr heddlu

Gall swyddogion yr heddlu eich stopio, ac mae ganddynt yr hawl i chwilio unrhyw berson neu gerbyd, os byddant yn amau eich bod yn troseddu - gan gynnwys cario arf bygythiol. Mae arfau a ystyrir yn fygythiol yn cynnwys, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r canlynol:

  • cyllyll fflicio
  • cyllyll disgyrchiant
  • dyrnau haearn
  • ffyn cleddyf
  • clefyddau samwrai
  • crafangau llaw
  • crafangau troed
  • cyllyll bwcl belt
  • dagrau gwthio
  • cyllyll pili pala
  • chwythbibau neu ynau
  • kubotan (cynhwysydd silindraidd, sbigynnau dal)
  • shuriken (a elwir hefyd yn 'sêr marwolaeth' neu'n 'sêr taflu')
  • pastynau telesgopig (sy'n ymestyn yn awtomatig)
  • kusari-gama (cryman wedi'i glymu wrth raff, cortyn neu wifren)
  • kyoketsu-shoge (cyllell fachog wedi'i chlymu wrth raff, cortyn neu wifren)
  • kusari (pwysau wedi'i glymu wrth raff, cortyn neu wifren)
  • cyllyll wedi'u cuddio (er enghraifft, cyllyll minlliw)
  • cyllyll llechwraidd
  • pastynau syth, handlen ochr neu glo ffrithiant

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am bwerau atal a chwilio'r heddlu ac eich hawliau os cewch eich stopio, dilynwch y ddolen isod.

Chwilio mewn ysgolion a cholegau

Mae gan staff mewn ysgolion yn Lloegr y pŵer i chwilio, heb ganiatâd, unrhyw ddisgybl y maent yn amau eu bod yn cario cyllell neu arf arall i'r ysgol, neu ar ymweliad addysgol. Gall ysgolion hefyd sgrinio disgyblion ar hap, heb amheuaeth, gan ddefnyddio bwa sgrinio neu 'wialen' electronig. Nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ysgolion roi gwybod i riant cyn chwilio, neu gael caniatâd rhiant. Mae'n drosedd dod â chyllell neu arf bygythiol arall i'r ysgol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU