Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch Cymunedol

Mae 'Diogelwch Cymunedol' yn cyfeirio at eich ymdeimlad o ddiogelwch personol a pha mor gartrefol yr ydych yn teimlo yn lle'r ydych yn byw, gweithio, neu'n treulio eich amser hamdden. Mae'n cwmpasu llawer o brosiectau, gan gynnwys Plismona Cymunedol. Ceir ffyrdd hefyd i chi gymryd rhan er mwyn gwella diogelwch eich cymuned eich hun.

Partneriaethau Lleihau Troseddu ac Anhrefn

Mae Partneriaethau Lleihau Troseddu ac Anrhefn yn Lloegr a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol yng Nghymru yn bartneriaethau statudol. Golyga hyn bod yn rhaid i'r heddlu, yr awdurdodau lleol a gwasanaethau eraill (fel ymddiriedolaethau iechyd) gydweithio i leihau troseddu. Yna bydd Partneriaethau Lleihau Troseddu ac Anrhefn a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn datblygu ac yn rhoi strategaethau ar waith i fynd i'r afael â throseddu ac anrhefn, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio cyffuriau, yn eich ardal chi.

Gall eich Rheolwr Diogelwch Cymunedol yn eich partneriaeth leol roi rhagor o wybodaeth i chi am y strategaeth lleihau troseddu yn eich ardal. Gallant hefyd egluro cynlluniau lleihau troseddu lleol a allech ymuno â hwy a dweud wrthych ba gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau. Gallwch hefyd ddweud eich barn drwy fod yn bresennol mewn cyfarfodydd cymunedol lleol.

Plismona Cymdogaeth

Mae timau Plismona Cymdogaeth yn gweithio o fewn eu cymunedau er mwyn deall blaenoriaethau lleol - p'un a yw hynny'n golygu mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, delio â phroblemau a achosir gan gyffuriau, neu atal troseddu sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Mae gan bob cymuned ledled Cymru a Lloegr bellach Dîm Plismona Cymdogaeth ar waith i ddatrys problemau lleol. Mae'r timau'n rhoi presenoldeb amlwg ac yn ei gwneud yn hawdd cysylltu â hwy yn y gymuned ac maent yn gweithio'n galed i gadw cymdogaethau'n ddiogel. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy.

Addewid plismona

Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar blismona sy'n egluro ymrwymiad gwasanaeth yr heddlu i 'addewid plismona'. Bydd yr addewid yn nodi'r safon genedlaethol y dylai pobl ddisgwyl i'r heddlu ei chyrraedd. Bydd pob cymdogaeth yn gallu ychwanegu ei blaenoriaethau lleol ei hun.

Sut gallwch helpu

Un o'r ffyrdd symlaf a mwyaf effeithiol y gallwch helpu yw ymuno â'ch cynllun Gwarchod y Gymdogaeth lleol neu, os nad oes un yn eich ardal, dechreuwch eich cynllun eich hun. Dylai eich gorsaf heddlu leol allu eich rhoi mewn cysylltiad â chynllun mewn ardal gyfagos i chi a cheir llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Gwarchod y Gymdogaeth.

Mae yna hefyd lawer o grwpiau lleol amrywiol yn gweithio yn y gymuned ac yn annog trigolion i gymryd rhan: er enghraifft, Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT) a phanelau tîm Plismona Cymdogaeth lleol. Siaradwch â'ch tîm lleol i gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi a sut y gallwch gymryd rhan. Dilynwch y ddolen uchod i ddod o hyd i'ch tîm.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU