Nid dim ond lleihau niferoedd yr achosion o fwrgleriaeth yw nod Gwarchod y Gymdogaeth - gall hefyd ddod â phobl leol at ei gilydd i wneud cyfraniad gwirioneddol tuag at wella'u bywydau.
Mae Gwarchod y Gymdogaeth (a elwir yn Gwarchod y Cartref mewn rhai ardaloedd) yn un o'r cynlluniau atal troseddu ehangaf a mwyaf adnabyddus. Gall unrhyw un ddod yn gysylltiedig â chynllun Gwarchod y Gymdogaeth. Mae'r cynlluniau'n galluogi pobl leol i helpu'r heddlu i leihau troseddu. Maent hefyd yn annog pobl i fod yn gymdogion da, ac yn dod â chymunedau'n nes at ei gilydd.
Arweinir pob cynllun gan gydlynydd gwirfoddol sy'n dod â'i gymdogion at ei gilydd i drafod sut y gallant wneud eu cymdogaeth yn lle mwy diogel i fyw. Gall y cynlluniau fod yn fawr neu'n fach - mae'n dibynnu ar yr ardal a beth yw dymuniadau'r bobl sy'n byw yno. Maent yn cadw cyswllt agos â'r heddlu lleol i rannu gwybodaeth a chyngor.
Gall cynlluniau dargedu problemau troseddu lleol a chymryd camau i'w hatal. Dylai cynlluniau holi pobl leol beth sy'n eu poeni fwyaf, a chanolbwyntio ar broblem benodol.
Gellir cymryd camau allweddol tuag at dargedu a lleihau troseddu a'r ofn ynghylch troseddu mewn unrhyw ardal. Wrth ymgynghori â'r heddlu lleol, gall cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth wneud y canlynol:
Yn y gorffennol, mae gweithgarwch Gwarchod y Gymdogaeth wedi canolbwyntio ar gartrefi, gydag aelodau'n wyliadwrus o unrhyw beth amheus, ac yn helpu eu cymdogion fel bo'r galw. Fodd bynnag, mae mwy a mwy o gynlluniau'n ehangu'r gwaith a wnânt. Bellach, gellir targedu problemau lleol, megis fandaliaeth neu graffiti, drwy gynlluniau sydd wedi'u trefnu'n dda.
Cewch fwy o wybodaeth am sut mae bod yn rhan o gynllun o'r fath ar wefan Gwarchod y Gymdogaeth y Swyddfa Gartref, neu cysylltwch â'ch tîm plismona cymdogaeth lleol.