Mae 'na lawer o gymorth a chefnogaeth ar gael i bobl sy'n poeni am droseddu ac i'r rhai sydd am helpu i fynd i'r afael â throseddu.
Mae troseddu'n cael sylw ymhob ardal leol gan Bartneriaethau Gostwng Troseddau ac Anrhefn (PGTA) sy'n cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, busnesau a mudiadau eraill. Os hoffech gael gwybod mwy am yr hyn sy'n cael ei wneud yn eich ardal leol i fynd i'r afael â throseddu ac ofn ynghylch troseddu, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'r Bartneriaeth Gostwng Troseddau ac Anrhefn.
Mae'r gwefannau a restrir isod yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol os ydych yn poeni am droseddu neu os hoffech gymryd camau i atal troseddu.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth yn yr adran Cartref a chymuned ar sut i ddelio â niwsans megis sbwriel, graffiti a dympio'n anghyfreithlon, a chyngor yn yr adran Pobl ifanc ar sut i gadw'n ddiogel os ydych yn berson ifanc.
Fel arfer, gallwch roi gwybod am fân droseddau drwy ddefnyddio gwefan eich heddlu lleol. Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i wefan eich heddlu lleol. Ar gyfer mathau eraill o droseddau, dylech gysylltu â'r heddlu lleol yn bersonol neu dros y ffôn.
Mae Consumer Direct yn rhoi cyngor ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i ddefnyddwyr gan gynnwys sgamiau. Os ydych yn amau bod sgam ar waith, cysylltwch â Consumer Direct ar 08454 040506 neu, os nad ydy Consumer Direct ar gael yn eich ardal eto, cysylltwch â'ch Adran Safonau Masnach yn lleol neu'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth - mae'r rhifau yn y llyfr ffôn.
Elusen annibynnol ydy Cymorth i Ddioddefwyr sy’n helpu pobl i ddelio ag effeithiau trosedd. Mae'n darparu cefnogaeth a gwybodaeth gyfrinachol yn ddi-dâl i helpu pobl sydd wedi dioddef trosedd yn eu herbyn i ddelio gyda'u profiadau.