Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymddangos fel tyst

Mae tystion yn elfen hanfodol o'r system cyfiawnder troseddol. Nid oes rheidrwydd cyfreithiol arnoch i roi gwybod i'r heddlu am drosedd yr ydych wedi ei gweld, ond gallai'ch cymorth gael effaith wirioneddol a rhwystro troseddau eraill rhag digwydd - yn union fel y gallai'ch tystiolaeth chi fel tyst dros yr amddiffyniad sicrhau nad yw diffynyddion dieuog yn cael eu dedfrydu.

Beth mae hyn yn ei olygu

gallwch gael eich barnu'n euog o ddirmyg llys os na fyddwch yn bresennol yn y treial ar ôl i chi gael gwys

Efallai y bydd gofyn i chi ymddangos fel tyst os ydych:

  • yn ddioddefwr trosedd
  • yn gwybod rhywbeth am drosedd neu ddigwyddiad
  • yn meddu ar wybodaeth arbenigol am bwnc (gelwir tyst o'r fath yn 'dyst arbenigol')
  • yn adnabod un o'r bobl sy'n ymwneud â'r achos (gelwir tyst o'r fath yn 'dyst cymeriad')

Os ydych yn dewis rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd yr ydych wedi ei gweld, byddant yn gofyn i chi roi datganiad tyst iddynt. Efallai y bydd tipyn o amser cyn y byddwch yn gwybod a fydd angen i chi fynd i'r llys ai peidio, oherwydd gall gymryd llawer o amser i baratoi achosion. Os bydd yr achos yn mynd i'r llys a bod gofyn i chi roi tystiolaeth, bydd rhywun yn cysylltu â chi.

Mynd i’r llys

Os ydych chi'n dyst ond nad chi a ddioddefodd y drosedd, mae'n llai tebygol y gofynnir i chi roi tystiolaeth. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd rhaid i chi roi tystiolaeth yn y llys os yw'r diffynnydd yn pledio'n 'ddieuog', neu'n gwadu rhan bwysig o'r cyhuddiad.

Os oes gan yr heddlu reswm i gredu na fyddwch chi'n dod i'r llys, efallai y byddwch yn derbyn gwys. Os byddwch chi'n peidio â dod i'r llys ar ôl derbyn gwys, gallwch gael eich barnu'n euog o 'ddirmyg llys' ac efallai y cyhoeddir warant i'ch arestio.

Cefnogi ac amddiffyn tystion

Ar ôl rhoi datganiad tyst i'r heddlu, fe'ch cyfeirir at eich Uned Gofalu am Dystion leol, a fydd yn gweithredu fel eich un pwynt cyswllt. Rhedir yr Uned Gofalu am Dystion gan yr heddlu a'r Gwasanaeth Erlyn Troseddol.

Ar gyfer y gwrandawiad llys, byddant yn eich cyfeirio at fudiad o'r enw Y Gwasanaeth Tystion, sy'n rhan o'r cynllun Cymorth i Ddioddefwyr. Mae'r Gwasanaeth Tystion yn cynnig cymorth a chyngor yn rhad ac am ddim am weithdrefnau'r llys a rhoi tystiolaeth, a gallant drefnu ymweliad cyn mynd i'r llys. Gall staff a gwirfoddolwyr hefyd ddod gyda chi i'r llys tra byddwch yn rhoi eich tystiolaeth. Mae'r Gwasanaeth Tystion yn cynnig y cymorth hwn i:

  • unrhyw dystion sy'n rhoi tystiolaeth, gan gynnwys tystion dros yr amddiffyniad
  • dioddefwyr a'u teuluoedd a'u ffrindiau sy'n dod i'r llys

Gwylio arweiniad cam-wrth-gam

Gallwch wylio fideo ar-lein sy'n trafod bod yn dyst. Byddwch yn gweld yr arweiniad hwn, sydd wedi'i animeiddio, drwy lygaid tyst, a bydd yn eich helpu i ddeall eich swyddogaeth o fewn gweithrediadau'r llys. Bydd yn dweud llawer wrthych am yr hyn sy'n digwydd yn y llys, a'r gwahanol bobl sy'n gweithio yno.

Mae'r fideo rhyngweithiol yn dilyn taith tyst o wneud datganiad drwy'r broses llys troseddol ac ar ôl y treial. Gallwch ddewis bod un ai'n dyst dros yr erlyniad neu'r amddiffyniad, a gallwch fynd ar daith drwy lys ynadon, Llys y Goron neu lys ieuenctid. Gallwch wylio'r fideo mewn amryw o ieithoedd.

Os ydych chi'n dyst ac y byddai'n well gennych chi wylio'r fideo hwn ar DVD, gallwch ofyn am gopi ohono gan eich Swyddog Gofal Tystion (os ydych yn dyst dros yr erlyniad) neu Gyfreithiwr yr Amddiffyniad (os ydych chi'n dyst dros yr amddiffyniad). Os ydych chi'n ansicr pwy yw'ch person cyswllt, yna gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion mewn unrhyw lys troseddol lleol a gofyn am gopi ganddynt. Enw'r DVD yw 'Mynd i'r Llys - Arweiniad Cam-wrth-Gam i fod yn Dyst'.

Mesurau arbennig

mae mesurau arbennig yn helpu pobl sy'n agored i niwed i roi tystiolaeth yn y llys

Mae’n drosedd bygwth neu harasio tyst. Os bydd hyn yn digwydd i chi, rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu yn syth. Mewn amgylchiadau eithafol, bydd yr heddlu yn eich ail-leoli er mwyn eich cadw'n ddiogel.

Weithiau, bydd angen cymorth ar bobl sy'n agored i niwed - megis plant dan 17, pobl sydd ag anawsterau dysgu a dioddefwyr troseddau rhyw - wrth roi tystiolaeth mewn llys. Weithiau, caniateir i bobl fel hyn ddefnyddio 'mesurau arbennig' i'w helpu i roi tystiolaeth. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:

  • cyfryngwr i helpu'r tyst i ddeall beth ofynnir iddo yn y llys, ac i'w helpu i roi ei dystiolaeth yn fwy eglur
  • sgriniau i rwystro'r tystion rhag gweld y diffynnydd
  • cysylltiad teledu byw, fel nad oes rhaid i dystion roi tystiolaeth yn y llys

Dylech ddweud wrth yr heddlu cyn mynd i'r llys os ydych yn teimlo y byddwch angen defnyddio mesurau arbennig.

Yn yr adran hon...

Additional links

Gwybodaeth i'r cyflogwr

Cael gwybod beth yw eich dyletswyddau chi fel cyflogwr o ran caniatáu amser i ffwrdd i ynadon er mwyn iddynt gael cyflawni eu dyletswyddau

Allweddumynediad llywodraeth y DU