Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethu fel rheithiwr

Bydd oddeutu 200,000 o bobl yn cyflawni gwasanaeth rheithgor bob blwyddyn, ac enwau pob un ohonynt wedi'u dewis ar hap oddi ar y gofrestr etholiadol i gyflawni'r swyddogaeth bwysig hon. Dylai gwybod beth i'w ddisgwyl eich helpu i deimlo'n hyderus os gelwir arnoch i fod yn rheithiwr. Gallwch wylio fideo ar-lein i weld beth fydd yn digwydd.

Dewis rheithgor a phwrpas rheithgor

Defnyddir rheithgor oherwydd fe dderbynnir mai'r ffordd orau o sicrhau treial teg yw cael panel o bobl gyffredin, a'r rheini wedi'u dewis ar hap. Bydd y 12 aelod o'r rheithgor yn cynrychioli trawstoriad o'r gymdeithas a gofynnir i bob rheithiwr edrych ar yr achos yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu bod yn feddwl agored, defnyddio synnwyr cyffredin a defnyddio'r profiadau personol y maent wedi'u cael yn ystod eu bywyd i wneud yn siŵr y ceir achos teg. Does dim angen i chi feddu ar unrhyw wybodaeth am y gyfraith.

Beth sy'n digwydd os cewch eich dewis

mae gan reithwyr swyddogaeth bwysig ym mhroses y llys

Os byddwch yn cael eich dewis ar hap gan gyfrifiadur i wasanaethu ar reithgor, cewch lythyr a elwir yn ‘Gwŷs Rheithgor’. Bydd hwn yn dweud wrthych i ba lys yr ydych wedi'ch gwysio i fynd (ble fyddwch yn cyflawni gwasanaeth rheithgor) a'r dyddiad a'r amser y bydd eich gwasanaeth yn dechrau. Fel arfer, bydd naw wythnos rhwng yr amser y bydd y rheithiwr yn cael y Gwŷs Rheithgor a'r diwrnod cyntaf y mae'n rhaid iddo fod yn bresennol yn y llys.

Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys manylion y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor. Gallwch gysylltu â'r Swyddfa ynghylch unrhyw ymholiadau sydd gennych ar y pryd am wasanaeth rheithgor. Ffurflen i chi ei llenwi yw gweddill y llythyr, sef eich ateb i'r Wŷs Rheithgor. Mae'n caniatáu i chi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol amdanoch eich hun i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Beth y mae'n rhaid i chi ei wneud ar ôl cael eich llythyr Gwŷs Rheithgor

cael e-bost i'ch atgoffa o ddyddiad eich gwasanaeth rheithgor

Rhaid i chi ateb eich Gwŷs Rheithgor o fewn saith niwrnod i'w gael. Derbynnir y bydd rhai adegau lle na fydd yn bosib i berson wasanaethu ar yr adeg y'i gwysir. Os ydych chi'n meddwl bod gennych reswm dros beidio â gwasanaethu ar y pryd, mae'n dal yn ofynnol i chi ateb y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor, a gofyn am gael ‘gohirio’ (er mwyn i chi allu gwasanaethu ar ddyddiad arall yn y dyfodol) neu am gael eich ‘hesgusodi’ rhag gorfod gwasanaethu ar reithgor yn gyfan gwbl. Rhoddir y rhesymau posib dros ohirio neu esgusodi ar eich ffurflen ateb, ynghyd â manylion sut mae gwneud cais am ohirio neu esgusodi.

Ar ôl i chi ateb eich Gwŷs Rheithgor, cewch becyn cadarnhau gan y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor. Bydd hwn yn cynnwys y wybodaeth ychwanegol y bydd ei hangen arnoch, gan gynnwys sut mae cyrraedd y llys a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yno.

Gallwch hefyd gofrestru ar-lein i gael e-bost yn eich atgoffa o'ch gwasanaeth rheithgor. Bydd y nodyn atgoffa'n cael ei anfon atoch bum niwrnod cyn i'r gwasanaeth rheithgor ddechrau. Dilynwch y ddolen isod i gofrestru.

Cael gwybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd - gwylio'r DVD ar-lein

gall y syniad o lysoedd beri dychryn: gwyliwch y DVD i weld y darlun go iawn

Bydd eich gwŷs yn dweud wrthych ei bod yn ofyniad cyfreithiol i chi wasanaethu - gall hyn wneud i rai pobl deimlo'n bryderus. Dydy hyn ddim yn rheswm i chi boeni: ar ôl i bobl gael tawelwch meddwl am eu pryderon cychwynnol, byddant fel arfer yn gweld bod gwasanaeth rheithgor yn ddiddorol ac yn rhoi boddhad.

Os oes gennych bryderon neu amheuon ynghylch yr hyn mae gwasanaeth rheithgor yn ei olygu, efallai oherwydd rhywbeth yr ydych wedi'i ddarllen neu wedi'i weld ar y teledu, gallwch wylio'r DVD ar-lein sy'n egluro popeth y bydd angen i chi ei wybod yn y llys.

Mae'r ffilm 20 munud, 'Eich Rôl fel Rheithiwr', yn amlinellu'r hyn a ddisgwylir gennych fel rheithiwr. Bydd yn cael ei dangos i bob rheithiwr newydd yn y wlad ar y diwrnod cyntaf iddynt wasanaethu fel rheithiwr. Mae'r holl wybodaeth y mae'n ei chynnwys yn berthnasol i bob rheithiwr, ni waeth ym mha Lys y Goron y maent ynddo. Mae'r ffilm yn dangos popeth, o'r pethau sylfaenol y bydd angen i chi eu gwybod pan fyddwch yn y llys i draddodi'r rheithfarn a thu hwnt. Mae'n gyfle i chi gael gwybod mwy cyn eich diwrnod cyntaf yn y llys.

Pan ddangosir y ffilm i chi eto yn y llys, bydd un o dîm y rheithgor yn y llys ei hun yn rhoi sgwrs i chi – bydd y sgwrs yn cynnwys gwybodaeth am y llys penodol yr ydych yn gwasanaethu ynddo.

Dilynwch y ddolen isod i wylio'r DVD ar-lein – gellir ei wylio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mwy o gwestiynau a threfnu i ymweld â'r llys ymlaen llaw

Os ydych chi'n dal yn bryderus ar ôl gwylio'r DVD, neu os oes gennych anabledd neu anghenion arbennig, mae'n bosib y bydd modd trefnu ymweliad â'r llys ymlaen llaw. I wneud hyn, dylech gysylltu â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor neu â Rheolwr y Rheithgor yn y llys y gwysiwyd chi i wasanaethu yno. Ceir manylion cyswllt y llys ar y Daflen Gwybodaeth Leol a gewch yn eich pecyn cadarnhau, neu gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i ddod o hyd i Lys. Bydd tîm rheithgor y llys y byddwch yn gwasanaethu ynddo hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cysylltu â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor

  • ffôn 0845 803 8003 (9.00 am i 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, codir cyfradd leol am alwadau)
    neu
  • ebost jurysummoning@hmcourts-service.gsi.gov.uk

Yn yr adran hon...

Additional links

Gwybodaeth i'r cyflogwr

Cael gwybod beth yw eich dyletswyddau chi fel cyflogwr o ran caniatáu amser i ffwrdd i ynadon er mwyn iddynt gael cyflawni eu dyletswyddau

Allweddumynediad llywodraeth y DU