Mae staff y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gweithio i leihau effaith troseddu ar gymunedau, ac ar ddioddefwyr yn enwedig. Maent yn gweithio i sicrhau bod y rheini sydd dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf yn cydymffurfio ag amodau eu dedfryd gymunedol, neu â'u trwydded rhyddhau o'r carchar. Byddant hefyd yn gweithio i ailsefydlu'r troseddwyr hynny, i ostwng lefelau aildroseddu ac i ddiogelu'r cyhoedd.
Mae troseddwyr yn debygol o gael eu rhoi dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf:
Mae'n rhaid i droseddwyr sydd dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf gydymffurfio â rheolau a gofynion eu dedfryd gymunedol neu â'u trwydded rhyddhau o'r carchar. Os byddant yn torri'r rheolau hyn, byddant yn wynebu camau disgyblu - gan gynnwys y risg o gael eu hanfon i'r carchar. Er enghraifft, rhaid i droseddwyr fynychu sesiynau goruchwylio rheolaidd gyda'u swyddogion prawf. Dim ond un rhybudd a gânt os ydynt yn colli sesiwn; os nad ydynt yn bresennol yn yr ail sesiwn, byddant yn cael eu hanfon yn ôl i'r llys.
Gall gofynion ychwanegol bod dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf gynnwys:
Rhaid i rai troseddwyr aros mewn hosteli prawf, a elwir yn Adeiladau Cymeradwy. Ceir mwy o oruchwyliaeth yn yr hosteli nag sy'n bosib mewn mathau eraill o lety. Maent yn cynnwys mesurau diogelwch, er enghraifft, larymau a systemau Teledu Cylch Cyfyng, cyrffyw a threfn ddyddiol gaeth i droseddwyr er mwyn ymdrin â'u hymddygiad troseddol.
Prif gyfrifoldeb swyddog prawf yw gwarchod y cyhoedd drwy weithio i leihau'r risg y bydd troseddwr yn ail-droseddu - tra mae'r troseddwr dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf ac wedi hynny. Maent wedi ymrwymo i sicrhau bod troseddwyr yn cydymffurfio ag amodau eu dedfryd gymunedol neu'u trwydded rhyddhau o'r carchar, ac i ailsefydlu'r troseddwyr dan eu goruchwyliaeth. Bob blwyddyn, bydd swyddogion prawf yn goruchwylio oddeutu 225,000 o droseddwyr.
Mae gwaith y Gwasanaeth Prawf yn dechrau cyn i'r troseddwr gael ei ddedfrydu neu'i ryddhau o'r carchar hyd yn oed. Bydd y Gwasanaeth yn ysgrifennu 'Adroddiad Cyn-Dedfrydu' i roi mwy o wybodaeth i'r barnwr neu i'r ynad am y troseddwr cyn iddynt benderfynu ar y ddedfryd. Mae'n awgrymu dedfryd, ond y llys sy'n gwneud y penderfyniad.
Bydd y swyddogion prawf hefyd mewn cysylltiad â'r troseddwr a'i deulu, ac yn monitro symudiadau'r troseddwr tra maent ar brawf. Mae'n bosib y byddant hefyd yn gweithio gyda'r troseddwr i fynd i'r afael â materion fel rheoli dicter, neu broblemau cyffuriau ac alcohol.
Cefnogi dioddefwyr troseddau
Bydd staff y Gwasanaeth Prawf yn gweithio gyda'r rheini sydd wedi dioddef troseddau treisgar neu rywiol. Os yw'r dioddefwyr yn dymuno, bydd y staff yn rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau ynghylch dedfryd o garchar y troseddwr. Efallai y byddant hefyd yn cysylltu â'r dioddefwr am amodau rhyddhau'r troseddwr.
Mae'r Gwasanaeth Prawf yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau cyfiawnder troseddol eraill, gan gynnwys yr heddlu a charchardai. Er enghraifft, pan fydd troseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau treisgar neu rywiol difrifol yn cael eu rhyddhau o'r carchar, ceir tair asiantaeth sy'n cyd-weithio i reoli'r gwaith o'u goruchwylio yn y gymuned. Gelwir hyn yn Drefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA).
Mae'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol wedi'i ffurfio o 42 ardal brawf dros Gymru a Lloegr. Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i'ch gwasanaeth lleol os hoffech enwebu prosiect ar gyfer Gwneud Iawn â'r Gymuned yn eich ardal chi, neu os hoffech ddysgu mwy am eu gwaith.
Mae'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn cael ei fonitro a'i asesu gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi. Cewch wybod mwy am eu gwaith drwy ddilyn y ddolen isod.