Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Archwilio ymwelwyr

Mae swyddogion carchar weithiau'n archwilio ymwelwyr â'r carchar. Gwneir hyn i ddiogelu ymwelwyr a'r carcharorion.

Archwilio ymwelwyr

Gellir archwilio unrhyw un sy'n mynd i mewn i garchar. Mae hyn yn cynnwys babanod a phlant, ac felly mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch plentyn y gallai gael ei archwilio cyn i chi ymweld â'r carchar.

Mae plant dan 16 oed yn cael eu harchwilio dim ond gyda chaniatâd eu rhiant neu ofalwr. Os ydych yn gwrthod i'ch baban neu blentyn gael ei archwilio, efallai na fyddwch yn cael mynd i mewn.

Mae babanod a phlant bob amser yn cael eu harchwilio mewn ffordd sy'n diogelu eu lles a'u hiechyd. Os bydd staff yn amau bod plant yn cael eu defnyddio i smyglo cyffuriau i mewn i garchar, byddant yn trin hynny fel achos posib o gam-drin plentyn a gallant roi gwybod i'r Heddlu a'r Gwasanaethau Amddiffyn Plant.

Bydd taflen yn esbonio'r drefn archwilio yn fanylach ar gael yn y rhan fwyaf o garchardai.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU