Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymweld ag aelodau o'r teulu sydd mewn carchar

Os oes aelod o'ch teulu yn y carchar, gall ymweliadau eich helpu i gadw mewn cysylltiad. Gallwch gadw mewn cysylltiad hefyd trwy lythyr a bydd y sawl sydd yn y carchar yn gallu cysylltu â chi dros y ffôn.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae 'na reolau ynghylch sawl ymweliad y mae carcharor yn ei gael a sut y cynhelir yr ymweliadau.

Os yw'r aelod o'ch teulu wedi'i gael yn euog o drosedd rhaid iddynt anfon Gorchymyn Ymweliad (GY) atoch a bydd rhaid ichi fynd â hwn gyda chi pan fyddwch yn ymweld. Rhaid cynnwys enwau a manylion pob ymwelydd ar y gorchymyn ymweliad, yn arbennig pobl ifanc dan 18 oed a dylai eu henw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad a'u perthynas â'r carcharor gael eu cynnwys. Rhaid trefnu pob ymweliad o flaen llaw ar linell archebu'r carchar.

Gwnewch yn siŵr fod y dogfennau adnabod cywir gennych wrth ymweld. Fel arfer byddai pasport, trwydded yrru neu fil nwy yn addas ond gallwch holi wrth ffonio i archebu'ch ymweliad. Gall y ddogfen adnabod y mae carchar yn fodlon ei derbyn fod yn wahanol ymhob carchar.

Ni chaiff mwy na thri pherson ymweld ar yr un pryd, ac felly gwnewch yn siur nad oes neb arall yn ymweld â'r aelod o'ch teulu ar yr un pryd. Mae unrhyw un dros ddeg oed yn cyfrif fel un person. Gall plant o dan ddeg fynd yn ychwanegol i'r uchafswm a ganiateir. Rhaid i unrhyw un dan 18 oed fod gydag oedolyn fel arfer.

Os yw'r aelod o'ch teulu ar remand neu wedi'i gael yn euog o drosedd sifil, bydd angen ichi holi am y trefniadau ymweld gyda'r carchar.

Mae gan garcharorion sydd wedi'u cael yn euog hawl i ddau ymweliad 60 munud o leiaf bob pedair wythnos. Os ydych yn byw bellter mawr o'r carchar, efallai y bydd yr aelod o'ch teulu yn y carchar yn gofyn am gael hel ymweliadau er mwyn i chi allu ymweld yn llai aml am gyfnod hwy. Os bydd yr aelod o'ch teulu sydd yn y carchar wedi llwyddo i hel nifer o ymweliadau fel hyn, gall wneud cais i gael yr ymweliadau hynny mewn carchar sy'n agosach i'w gartref.

Os ydych am fynd â phethau i mewn i'r carchar i'r aelod o'ch teulu, rhaid i chi ofyn ymlaen llaw beth sy'n cael ei ganiatáu. Rhaid rhoi unrhyw beth y byddwch chi'n ei gludo i'r carchar i'r swyddog sy'n gyfrifol am ymweliadau

Cofiwch fod smyglo cyffuriau i mewn i garchar yn drosedd difrifol. Gall arwain at gael eich gwahardd o'r carchar am sawl mis, neu efallai y cewch eich arestio

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU