Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Dedfrydau cymunedol - trosolwg

Gall llys roi dedfryd gymunedol i chi yn lle eich dirwyo neu eich anfon i'r carchar. Gall dedfryd gymunedol gynnwys pethau fel gwneud gwaith 'Talu'n ôl i'r Gymuned' neu orfod cwblhau cwrs hyfforddi. Mynnwch wybod sut mae dedfrydau cymunedol yn gweithio.

Dedfrydau cymunedol - beth ydynt

Bwriedir i ddedfryd gymunedol roi budd i'r gymuned leol

Rhoddir dedfrydau cymunedol i bobl a gaiff eu collfarnu am drosedd ond nad ydynt yn mynd i'r carchar. Mae dedfryd gymunedol yn:

  • gosb a gyflawnir yn y gymuned
  • ceisio rhoi budd i'r gymuned leol - er enghraifft, drwy eich gorfodi i wneud gwaith 'Talu'n Ôl i'r Gymuned', fel cael gwared ar graffiti
  • ceisio eich atal rhag troseddu eto

Mathau o drosedd a all arwain at ddedfryd gymunedol

Efallai y cewch ddedfryd gymunedol os byddwch yn cyflawni trosedd fel:

  • dwyn cerbyd
  • difrodi eiddo
  • cyflawni twyll budd-daliadau
  • ymddwyn yn fygythiol
  • ymosod ar rywun

Pam y gallwch gael dedfryd gymunedol

Bydd llys yn ystyried sawl peth wrth benderfynu pa ddedfryd i'w rhoi. Y ffactor pwysicaf yw pa mor ddifrifol oedd y drosedd.

Caiff dedfryd gymunedol ei hystyried o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae'r llys o'r farn eich bod yn fwy tebygol o roi'r gorau i gyflawni troseddau os cewch ddedfryd gymunedol nag os byddwch yn mynd i'r carchar
  • dyma'r tro cyntaf i chi gyflawni trosedd
  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl, neu rydych yn gaeth i rywbeth (er enghraifft, i gyffuriau) ac mae hynny'n effeithio ar eich ymddygiad

Mathau o ddedfryd gymunedol

Gellid gorchymyn i chi wneud unrhyw rai o'r canlynol fel rhan o ddedfryd gymunedol, sef 'gofynion'.

Talu'n ôl i'r Gymuned - gwaith di-dâl

Gellid gorchymyn i chi wneud gwaith di-dâl fel cael gwared ar graffiti a chlirio llwybrau sydd wedi gordyfu. Gweler 'Talu'n Ôl i'r Gymuned' i gael mwy o wybodaeth.

Swydd a hyfforddiant addysgol

Gall cyrsiau hyfforddi wella sgiliau fel darllen ac ysgrifennu. Gall cyrsiau eraill helpu wrth wneud cais am swyddi a meithrin sgiliau newydd.

Gweler 'Rhaglenni trin a hyfforddi ar ddedfryd gymunedol' i gael mwy o wybodaeth.

Rhaglenni trin

Efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau rhaglen drin - er enghraifft, i ddelio ag achosion o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu gyflwr iechyd meddwl.

Gweler 'Rhaglenni trin a hyfforddi ar ddedfryd gymunedol' am fwy o wybodaeth.

Cyfyngiadau - beth y gallwch ac na allwch ei wneud

Gall fod cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwch ei wneud. Er enghraifft, gorfod dilyn 'cyrffyw' (gorfod bod mewn man penodol ar adegau penodol) neu gael eich monitro'n electronig (cael eich 'tagio').

Gweler 'Beth y gallwch ac na allwch ei wneud ar ddedfryd gymunedol' am fwy o wybodaeth.

Goruchwyliaeth tra byddwch ar ddedfryd gymunedol

Efallai y cewch 'ofyniad goruchwylio' hefyd. Er enghraifft, efallai y gorchmynnir i chi gael cyfarfodydd rheolaidd â rheolwr troseddwyr.

Bydd eich rheolwr troseddwyr yn eich helpu i gwblhau eich dedfryd a'ch atal rhag troseddu eto.

Gweler 'Rheolwyr troseddau' - sut y gallant eich cefnogi' am fwy o wybodaeth.

Os byddwch yn torri telerau eich dedfryd gymunedol

Os byddwch yn torri telerau eich dedfryd gymunedol, er enghraifft, drwy beidio â chyfarfod â'ch rheolwr troseddwyr, gallech gael eich anfon yn ôl i'r llys. Gallech gael cosb arall a hyd yn oed gael eich anfon i'r carchar.

Dedfrydau cymunedol - pa mor hir y maent yn para

Mae dedfrydau cymunedol yn amrywio o ran hyd yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r drosedd. Bydd y barnwr (neu'r ynad) yn penderfynu yn ystod y gwrandawiad llys.

Er enghraifft, os cewch eich dedfrydu i wneud gwaith Talu'n Ôl i'r Gymuned, gallwch ddisgwyl cwblhau unrhyw beth o 40 awr i 300 awr o waith cymunedol di-dâl.

Os cewch eich dedfrydu i gyrffyw, gallai bara am hyd at chwe mis.

Gall cyfnod o oruchwyliaeth gyda rheolwr troseddau bara am hyd at dair blynedd.

Gweler 'Sut y pennir dedfrydau' am fwy o wybodaeth am y ffordd y mae'r llys yn gwneud penderfyniadau.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Talu'n Ôl i'r Gymuned

Awgrymu gwaith di-dâl ar gyfer troseddwyr i wneud yn eich cymuned

Allweddumynediad llywodraeth y DU