Os ydych yn ystyried gadael perthynas lle'r ydych yn cael eich cam-drin ac yn poeni am eich diogelwch eich hun ac am ddiogelwch eich plentyn, mae cymorth ar gael. Mae gan ddynion yr un hawliau'n union â merched i fod yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain ac mae ganddynt hawl i gael yr un cymorth.
Gall trais yn y cartref gynnwys cam-drin corfforol, ymosodiadau rhywiol a bygythiadau geiriol. Hefyd, gall gynnwys ymosodiadau mwy cynnil, megis torri ymddiriedaeth yn gyson, ynysu, gemau seicolegol a harasio. Gall effeithio ar bartneriaid ymhob math o berthynas a gall hefyd gynnwys trais rhwng rhieni a phlant.
Os ydych mewn perthynas lle'r ydych yn cael eich cam-drin, mae tri cham pwysig y gallwch eu cymryd:
Mewn argyfwng, dylech ffonio'r heddlu ar 999 (minicom 0800 112 999). Mae trais yn y cartref yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn gan yr heddlu a'r llysoedd.
Gallwch gysylltu â phobl a mudiadau eraill os ydych yn dioddef trais yn y cartref. Gall y rhain gynnwys eich meddyg, grwpiau cymorth lleol ac elusennau. Gall y llinellau cymorth canlynol gynnig cymorth a chyngor ymarferol i chi, gan gynnwys cyngor am faterion megis:
Llinell Gymorth Genedlaethol Trais yn y Cartref Lloegr
0808 2000 247
Llinell Gymorth Trais yn y Cartref 24 Awr Cymorth i Fenywod Gogledd Iwerddon
028 9033 1818
Llinell Gymorth Trais yn y Cartref yr Alban
0800 027 1234
Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Cymru
0808 80 10 800
Llinell Gyngor ac Ymholiadau i Ddynion
0845 064 6800
Gall y sawl sy'n eich cam-drin fygwth y bydd eich plentyn yn cael ei gymryd oddi wrthych os byddwch yn gadael neu'n dweud wrth rywun am y trais. Ni fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd â'ch plentyn oddi wrthych am y rheswm hwn.
Os oes ofn arnoch y bydd eich partner yn cipio'r plentyn, mynnwch gyngor cyn gynted ag sy’n bosibl. Gall eich grŵp Cymorth i Fenywod, Canolfan y Gyfraith, Canolfan Cyngor ar Bopeth yn lleol neu dwrnai roi cyngor i chi am sut i amddiffyn eich plentyn a sut y gellir cyfyngu ar neu oruchwylio'r cyswllt rhwng eich plentyn a phartner treisgar.
Dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, gallwch wneud cais am y canlynol: