Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Priodasau a orfodir

Mae nifer bychan o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i briodi gan eu teuluoedd pan fyddant yn mynd dramor. Os nad ydych yn dymuno cael priodas a orfodir, gall Uned Priodasau a Orfodir y Llywodraeth eich helpu chi.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan yr Uned Priodasau a Orfodir ar eu gwefan, a nodir isod. Gallwch hefyd ffonio'r Uned neu anfon e-bost atynt. Caiff unrhyw wybodaeth a roddwch eu trin yn gyfrinachol.

Rhif ffôn: 020 7008 0151

E-bost: fmu@fco.gov.uk

Sut i gael gafael ar gymorth

Pan fyddwch yn cysylltu â'r Uned, byddai o gymorth pe gallech ddarparu'r canlynol:

  • eich enw fel a ddangosir ar eich pasport
  • rhif, dyddiad a lleoliad cyflwyno eich pasport
  • eich dyddiad geni
  • enwau eich rhieni
  • eich cyfeiriad a'ch rhif ffôn yn y DU
  • cyfeiriad a rhif ffôn yn y wlad yr ydych yn ymweld â hi
  • enwau a chyfeiriadau unrhyw berthnasau eraill y gallech fod yn ymweld â hwy dramor
  • y dyddiad yr ydych yn disgwyl dychwelyd i'r DU
  • manylion cyfaill neu berthynas dibynadwy yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi yn y DU

Gallech hefyd gael taflen y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO), 'Priodasau a Orfodir - Llawlyfr Goroesi' yn ddefnyddiol - mae dolen at fersiwn ar-lein isod.

Os byddwch yn mynd dramor

  • nodwch gyfeiriad a rhif ffôn y Llysgenhadaeth, yr Uchel Gomisiwn neu'r Is-Genhadaeth Brydeinig yn y wlad y byddwch yn ymweld â hi
  • ewch â pheth arian gyda chi (i wneud galwadau ffôn neu ar gyfer trafnidiaeth)
  • cysylltwch â'r Uchel Gomisiwn/Llysgenhadaeth Brydeinig agosaf pan fyddwch dramor os ydych yn ofni eich bod am gael eich gorfodi i briodi
  • bydd yr Uchel Gomisiwn/Llysgenhadaeth yn ceisio eich dychwelyd i'r DU, yn cyflwyno pasport argyfwng os oes angen un ac yn rhoi llety a chludiant diogel i chi
  • bydd angen i chi neu ffrind ddarparu arian ar gyfer eich tocyn i fynd adref (mewn amgylchiadau eithriadol, gellir trefnu benthyciad) a rhoi eich enw llawn a'ch dyddiad geni i'r FCO
  • efallai y bydd angen i chi fynd i'r Uchel Gomisiwn/Llysgenhadaeth Brydeinig agosaf, ond bydd y FCO yn dal i geisio'ch helpu os na allwch gyrraedd yno eich hun

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU