Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 10 Chwefror 2012

Gofyn am ffurflen gais prawf gyrru ymarferol

Gallwch archebu’ch prawf gyrru ymarferol drwy’r post os na allwch ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein neu dros y ffon.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Llwythwch y ffurflen oddi ar y ddolen isod a'i llenwi.

Gallwch dalu am y prawf drwy siec neu archeb bost, ond nid yw taliadau arian parod yn cael eu derbyn. Dylech wneud y siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Driving Standards Agency’.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi, a’r taliad, at: Driving Standards Agency, PO Box 280, Newcastle-Upon-Tyne, NE99 1FP.

Profion ar gyfer ceir, mopedau, beiciau modur, tacsis a hyfforddwr gyrru cymeradwy

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i archebu’r mathau canlynol o brofion ymarferol:

  • car
  • moped a beic modur
  • tacsi
  • hyfforddwr gyrru cymeradwy

Profion ar gyfer loriau, bysiau, bysiau moethus a cheir ag ôl-gerbydau mawr

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i archebu’r mathau canlynol o brofion ymarferol:

  • cerbyd nwyddau mawr (LGV)
  • cerbyd cludo teithwyr (PCV)
  • car ag ôl-gerbyd mawr

Cyngor ar archebu a mynd am eich prawf ymarferol

Gallwch lwytho taflen gwybodaeth ynghylch eich prawf gyrru ymarferol.

Archebu eich prawf ymarferol ar-lein

Mae’n gyflymach ac yn haws i archebu eich prawf gyrru ymarferol ar-lein. Pan fyddwch yn archebu ar-lein gallwch weld yr apwyntiadau sydd ar gael a dewis un sy’n addas i chi.

Os oes angen i chi archebu eich prawf ar-lein, gallwch wylio canllaw cam-wrth-gam i ddefnyddio’r gwasanaeth archebu ar-lein.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU