Os digwydd i chi weld cerbyd ar ffordd gyhoeddus a bod hwnnw i bob golwg heb dreth, fe allwch chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ar-lein.
Bydd angen i chi roi gwybodaeth am y cerbyd, ei leoliad ac unrhyw wybodaeth arall sydd gennych. Gall swyddog archwilio wneud ymchwiliadau pellach drwy ddefnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni gan nodi'n ffurfiol ei fod ef/ ei bod hi wedi gweld y cerbyd a llenwi datganiad tyst.