Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 23 Chwefror 2012

Gwybodaeth bwysig am eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein   

Bydd eich rhagolwg ar-lein yn rhoi amcangyfrif i chi o'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar y rheolau presennol. Darllenwch ymlaen i gael manylion am newidiadau yn y dyfodol a all effeithio ar ychydig o'r wybodaeth yn eich rhagolwg ar-lein.

Menywod sy’n 60 oed a throsodd

Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein os yw’r holl amodau canlynol yn berthnasol:

                               • rydych yn fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953
                               • rydych yn fenyw sy’n 60 oed neu’n hŷn ond nad ydych o fewn pedwar mis i gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Fodd bynnag, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth y Llywodraeth pob tro y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth, hyd yn oed os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth o blaen. Am y rheswm hwn, mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn argymell eich bod chi’n gwneud cais am ragolwg dros y ffôn neu drwy’r post,

Menywod a anwyd ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl hynny: dynion a anwyd ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl hynny

Ar hyn o bryd ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth os ydych:

                                           • yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl hynny 
                                           • yn ddyn a anwyd ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl hynny

Rydym yn argymell nad ydych yn cofrestru gyda Phorth y Llywodraeth hyd nes y bydd y gwasanaeth ar-lein ar gael i chi ei ddefnyddio eto.
Yn y cyfamser, gallwch gael amcangyfrif o'r Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei gael drwy ddefnyddio'r proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth neu ofyn am gyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth.
 

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Gall faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth fod yn wahanol i'r amcangyfrif a nodir yn eich rhagolwg ar-lein.

Pwy mae hyn yn effeithio arno?

Mae'n debygol y bydd hyn yn effeithio arnoch os ydych wedi'ch eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar hyn o bryd ac yn aelod o:

  • gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn cyfranddeiliaid sydd wedi'i eithrio ar sail cyfraniad diffiniedig
  • cynllun pensiwn cwmni neu gynllun pensiwn galwedigaethol sydd wedi'i eithrio ar sail 'prynu arian' neu 'gyfraniad diffiniedig'

O 6 Ebrill 2012, ni fyddwch yn cael eich eithrio mwyach os ydych yn aelod o un o'r cynlluniau hyn.

Sut y gall hyn effeithio ar yr amcangyfrif o'ch Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Mae'n annhebygol o effeithio ar yr amcangyfrif o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn eich rhagolwg a gyfrifwyd gan ddefnyddio eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma.

Mae'n debygol y bydd yn effeithio ar yr amcangyfrif o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallwch ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ni fydd yn cynnwys y swm pellach y gallwch ei gael yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Ebrill 2012 oherwydd ni fyddwch yn cael eich eithrio mwyach.

Bydd rhagolygon pensiwn yn nodi'r newid hwn pan fydd cofnodion cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi'u diweddaru.

Mwy o ddolenni defnyddiol

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU